Rhai o gefnogwyr yn eu coch yn creu 'cwtsh' o gwmpas y Llyfrgell Geneldaethol ddoe
Ddoe, roedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cofnodi canmlwyddiant gosod ei charreg sylfaen – a hynny gyda ‘chwtsh’ fawr. Roedd wedi galw ar ei defnyddwyr a’i chefnogwyr i gofleidio’r adeilad, yn y gobaith o greu yr hyn a llai fod y cwtsh fwyaf yn y byd!
Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Brenin Siôr V i sain tanio gynnau gan fflotila o gychod ym Mae Ceredigion. Fydd dathliadau’r canmlwyddiant eleni ddim mor ffurfiol.
“Dros y blynyddoedd mae miloedd o bobl wedi ymweld â’r Llyfrgell i ddarllen yma neu i weld arddangosfa neu ddigwyddiad.
“Hoffem eu gwahodd yn ôl i ymuno â ni i greu cadwyn ddynol i ddathlu cyfraniad y Llyfrgell i fywyd diwylliannol a deallusol Cymru ac i dref Aberystwyth,” meddai’r Llyfrgellydd, Andrew Green.
“Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gefn ymgyrch codi arian ar lawr gwlad dros ganrif yn ôl. Yn hynny o beth, mae’n unigryw ymysg holl lyfrgelloedd cenedlaethol y byd.
“Rydym nawr yn gofyn i bobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth i’r Llyfrgell heddiw, a chadarnhau fod yr adeilad a’i chasgliadau yma i wasanaethu pobl Cymru a’r byd am ganrif arall.”