Fe fydd Ysgol Gyfun Llangefni yn Sir Fôn wedi cau yfory wrth i aelodau dau undeb athrawon fynd ar streic.
Mae’r undebau, UCAC ac NASUWT, wedi cael eu cythruddo gan fwriad i dorri oriau dysgu aelodau parhaol o staff yr ysgol – ac maen nhw’n cyhuddo’r llywodraethwyr o esgeulustod.
Yn ôl datganiad ar y cyd gan y ddau undeb:
“Mae athrawon wedi eu targedu o ganlyniad i newidiadau yn y cwricwlwm, toriadau i’w gwersi, cynnydd ym maint dosbarthiadau, cyflogi staff dros dro a chyfyngu ar y dewis o bynciau.
“Mae triniaeth o’r fath yn annerbyniol i UCAC ac i’r NASUWT. Mae staff ffyddlon ac ymroddgar yn haeddu gwell.
“Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg fod llywodraethwyr yr ysgol wedi methu â chadw digon o reolaeth dros y sefyllfa ac mae aelodau’r ddau undeb yn teimlo nad yw’r Corff Llywodraethol wedi gofalu amdanynt.
“Mae UCAC a’r NASUWT wedi gwneud pob ymdrech i geisio datrysiad i’r sefyllfa ond maent wedi eu siomi gan ymateb annigonol yr ysgol a’r Awdurdod Lleol.”
Mewn ymateb i ddatganiad yr undebau, meddai llefarydd ar ran Cyngor Môn:
“Mae’r ysgol a’r Awdurdod Addysg Lleol wedi gweithio’n ddygn gyda’r ddwy undeb er mwyn datrys yr anghydfod ac atal gweithredu diwydiannol. Mae pob ymgais wedi ei wneud i arbed swyddi llawn amser.
“Mae’n siomedig, felly, deall fod yr undebau yn teimlo rhwystredigaeth oherwydd camsyniad nad yw’r ysgol a’r Awdurdod Addysg Lleol yn cydweithredu.”