Mae cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson, wedi ei benodi’n hyfforddwr rhan amser gyda Chasnewydd am weddill y tymor. 

Roedd Hartson yn un o’r ffefrynnau i gael ei benodi’n rheolwr newydd y clwb ar ôl i Dean Holdsworth adael er mwyn ymuno gydag Aldershot yn gynharach yn y mis.

Ond cafodd cyfarwyddwr pêl droed y clwb, Tim Harris, ei benodi’n rheolwr tan ddiwedd y tymor. 

Mae Hartson eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i ddechrau ar yrfa hyfforddi a cafodd ei ystyried am swydd hyfforddwr Cymru cyn i Gary Speed gael ei benodi. 

Fe fydd rheolwr llawn amser newydd Casnewydd yn cael ei enwi ar ddiwedd y tymor.