Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Joanna Yeates wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys heddiw.
Ymddangosodd Vincent Tabak, 32 oed, sy’n beiriannydd o’r Iseldiroedd, o flaen Llys Ynadon Bryste wedi’i gyhuddo o lofruddio’r pensaer.
Arestiwyd Vincent Tabak ddydd Iau diwethaf ac fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa am wythnos arall o leiaf.
Bydd y peiriannydd yn ymddangos o flaen y llys yfory er mwyn gwybod a fydd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Siaradodd Vincent Tabak i gadarnhau ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad, ond ni gafodd ei ble nag unrhyw fanylion o’r achos yn ei erbyn eu datgelu o flaen y llys.
Fflat
Mae’r heddlu wedi bod yn archwilio’r fflat y mae Vincent Tabak yn ei rannu gyda’i gariad Tanja Morson ar 44 Ffordd Canynge, Clifton, Bryste.
Roedd Joanna Yeates yn rhannu’r fflat drws nesaf gyda’i chariad Greg Reardon, 27.
Fe aeth Jo Yeates ar goll ar 17 Ragfyr ar ôl bod am ddiod gyda ffrindiau gwaith.
Roedd Greg Reardon wedi ffonio’r heddlu er mwyn dweud bod Jo Yeates ar goll ar ôl dychwelyd adref o ymweliad â’i deulu yn Sheffield.
Daethpwyd o hyd i gorff Joanna Yeates dan eira ar ymyl heol Longwood Lane, Failand, yng ngogledd Gwlad yr Haf ar ddiwrnod Nadolig.
Cafodd ei landlord Chris Jefferies, 66, ei arestio ar 30 Rhagfyr, a’i holi am dri diwrnod ar amheuaeth o’i lladd cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.