Mae yna 10 twll ym mhob milltir o’r ffordd yng Nghymru a Lloegr, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Erbyn diwedd 2011 fe fydd yna ddwy filiwn o dyllau yn y ffyrdd, yn ôl Cymdeithas y Diwydiant Asffalt.
Rhybuddiodd y beiciwr Olympaidd, Victoria Pendleton, fod y tyllau yn annog pobol i beidio â theithio o le i le ar gefn beic.
“Mae tyllau yn y ffyrdd wedi mynd yn broblem fawr yn dilyn y tywydd garw’r gaeaf yma, yn enwedig i bobol sy’n seiclo i’r gwaith neu i’r ysgol,” meddai.
“Rhaid i’n ffyrdd ni fod yn saffach ac yn haws i’w defnyddio i seiclwyr sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio eu beiciau oherwydd cyflwr y ffyrdd.”
Mae cynghorau yn brin o arian er mwyn trwsio’r tyllau o ganlyniad i’r toriadau ariannol eleni.
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol fod adrannau sy’n gyfrifol am drwsio’r ffyrdd yn gorfod torri nôl.
“Mae hyn yn fater difrifol iawn. Mae tyllau yn y ffyrdd yn beryg bywyd i feicwyr a motorbeicwyr,” meddai Helen Melhuish o Gymdeithas y Diwydiant Asffalt.
“Mae angen i’r llywodraeth ddarparu rhagor o arian er mwyn rhoi’r gallu i awdurdodau lleol wella’r ffyrdd, fel nad ydyn nhw’n gorfod gwastraffu arian ar lenwi tyllau ar ôl iddyn nhw ymddangos.”