Mae dogfennau cyfrinachol yn awgrymu bod y ddwy ochr yn Israel wedi dod yn agos at gytundeb ddwy flynedd yn ôl, gydag arweinwyr y Palesteiniaid yn fodlon ildio tir sylweddol.
Mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera a phapur newydd y Guardian wedi cyhoeddi gwybodaeth sydd, medden nhw, yn gofnod o rai o’r trafodaethau rhwng y Palesteiniaid ac Israel.
Maen nhw’n dangos bod arweinwyr Palesteinaidd y Llain Orllewinol – cynrychiolwyr swyddogol y wlad – wedi addo ildio’r rhan fwya’ o’r treflannau y mae Israel wedi eu creu yn Nwyrain Jerwsalem.
Roedd Prif Weinidog Israel ar y pryd, Ehud Olmert, hefyd wedi cynnig cynllun cyfnewid tiroedd ond fe fu’n rhaid iddo ildio’i swydd cyn gorffen y gwaith.
Yn gyffredinol, mae’r dogfennau’n dangos bod Israel yn llawer cryfach yn y trafodaethau, gyda’r Palesteiniaid yn cwyno nad oedden nhw’n cael dim.
Ceisio rhwystro gwlad Balesteinaidd
Ar un adeg, mae’n ymddangos bod prif drafodwraig Israel, Tzipi Livni, wedi dweud yn blaen eu bod yn ceisio’i gwneud hi’n amhosib creu gwladwriaeth Balesteinaidd.
Yn ôl y dogfennau, roedd hi wedi dweud bod Israel yn codi mwy a mwy o dreflannau ar dir y Palesteiniaid nes ei gwneud hi’n amhosib creu gwladwriaeth newydd.
Roedd yr Unol Daleithiau – yn enwedig yng nghyfnod George Bush – i’w gweld yn dibrisio llawer ar gwynion y Palesteiniaid.
Does dim cadarnhad swyddogol wedi dod i ddweud bod y dogfennau’n ddilys.