Dioddefodd siopau Prydain eu Rhagfyr gwaethaf ers dechrau cofnodion wrth i’r argyfwng economaidd a’r eira mawr gadw cwsmeriaid draw.
Syrthiodd gwerthiant nwyddau 0.8% ym mis Rhagfyr – y cwymp mwyaf o’i fath ers dechrau cadw cofnodion yn 1988, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd cwymp o 3.4% mewn gwerthiant bwyd wrth i brisiau godi 5%. Doedd chwyddiant uchel “ddim wedi helpu” gwerthwyr bwyd, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dywedodd siopau stryd fawr Marks & Spencer a John Lewis bod gwerthiant yn dda yn ystod mis Rhagfyr, ond beiodd Next a HMV y tywydd garw am gwymp mewn gwerthiant.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol doedd dim tystiolaeth bod cwsmeriaid wedi prynu eitemau mawr fel setiau teledu neu oergelloedd cyn y cynnydd mewn Treth ar Werth ym mis Ionawr.
Roedd cynnydd arall mewn gwerthiant nwyddau dros y we. Roedd gwerth £770 miliwn – neu 10.6% o’r holl nwyddau a werthwyd ym mis Rhagfyr – wedi eu prynu ar-lein.