Mae pennaeth cyfathrebu Stryd Downing, Andy Coulson wedi ymddiswyddo heddiw.
Wrth adael dywedodd fod y ffrae dros hacio ffônau symudol pan oedd yn olygydd papur newydd y News of the World wedi amharu ar ei allu i wneud y swydd.
Mewn datganiad personol o Stryd Downing, dywedodd Andy Coulson ei fod yn “cymryd balchder” yn ei waith gyda David Cameron a’r glymblaid.
“Does dim byd yn fwy pwysig na gwaith y Llywodraeth wrth geisio adfer y wlad,” meddai.
“Yn anffodus mae’r sylw parhaus i fy hen swydd ym mhapur newydd y News of the World wedi ei gwneud hi’n anoddach i fi roi fy sylw llawn i’r swydd yma.
“Pan mae angen llefarydd ar lefarydd mae’n bryd symud ymlaen.
“Fe fyddai’n gadael o fewn yr wythnosau nesaf ac yn gwneud hynny gan ddymuno’r gorau i’r Prif Weinidog, ei deulu a’i dîm.
“Rydw i’n siŵr bod dyfodol hir a llwyddiannus mewn llywodraeth o’u blaenau nhw.”
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron ei fod yn “flin ganddo” bod Andy Coulson yn gorfod gadael dan bwysau.