Mae rheolwr Arsenal wedi dweud ei fod yn ystyried anfon Aaron Ramsey yn ôl i Gaerdydd ar gytundeb benthyg tymor byr.
Mae chwaraewr canol cae Cymru wedi dechrau chwarae unwaith eto ar ôl torri ei goes yn erbyn Stoke ym mis Chwefror y llynedd.
Fe dreuliodd Ramsey gyfnod ar fenthyg â Nottingham Forest er mwyn cryfhau ei ffitrwydd.
Mae’r Cymro wedi dychwelyd i chwarae dros Arsenal erbyn hyn, ond mae’n dal i ddisgwyl am gyfle i chwarae i’r tîm cyntaf.
“Rwy’n ystyried caniatáu i Ramsey adael ar gytundeb benthyg mis o hyd â Chaerdydd,” meddai Arsene Wenger.
“Dw i ddim yn awyddus iddo fynd i glwb arall yn yr Uwch Gynghrair fel ei fod yn gallu dod yn ôl atom ni cyn diwedd y tymor.”
Fe dalodd Arsenal £5m i Gaerdydd am Aaron Ramsey ym mis Mehefin 2008. Mae’n bosib y bydd yn chwarae dros yr Adar Glas unwaith eto cyn diwedd y mis.