Mae batiwr ifanc Morgannwg, Tom Maynard wedi ymuno gyda Surrey ar gytundeb tair blynedd. 

Roedd Maynard yn awyddus i adael y Dreigiau ar ôl ymadawiad dadleuol ei dad, Matthew Maynard o’i swydd yn gyfarwyddwr Criced Morgannwg llynedd. 

Fe ymddiswyddodd Matthew Maynard ar ôl i Forgannwg benodi Alviro Petersen yn gapten, ac yna Colin Metson yn bennaeth hyfforddi wrth i’r clwb wneud newidiadau ar gyfer y tymor newydd. 

Fe ddywedodd rheolwr criced Surrey, Chris Adams nad oedden nhw wedi bwriadu arwyddo Maynard, ond ei fod yn gyfle rhy dda i golli. 

“Mae Tom wedi cael ei ddenu i’r clwb oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys yr hanes a’r cyfle i fod yn rhan o gyfnod cyffrous iawn yma,” meddai Chris Adams. 

Mae Tom Maynard wedi dweud ei fod wrth ei fodd i gael ymuno gyda’r clwb. 

“Rwy’n edrych ‘mlaen i gael chwarae gyda thalent ifanc uchel eu parch yn ogystal â dysgu llawer wrth y chwaraewyr profiadol a’r staff hyfforddi llwyddiannus,” nododd Tom Maynard.