Mae Delon Armitage mewn perygl o fethu gêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Cymru wrth iddo wynebu panel disgyblu heddiw. 

Mae Armitage wedi cael ei gyhuddo o wthio swyddog rheoli cyffuriau a defnyddio iaith anweddus yn dilyn gêm Gwyddelod Llundain yn erbyn Caerfaddon ar 1 Ionawr. 

Fe ddywedodd Undeb Rygbi Lloegr bod prawf cyffuriau Delon Armitage yn glir. 

Pe bai’n cael ei ganfod yn euog fe allai wynebu cosb o naill a’i dirwy neu waharddiad. 

Mae’r cefnwr wedi ennill 19 cap i Loegr ac mae wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Martin Johnson ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad. 

Doedd dim sicrwydd byddai Armitage yn dechrau yn erbyn Cymru gan ei fod yn cystadlu gyda chefnwr Northampton, Ben Foden am grys rhif 15 Lloegr. 

Ond fe allai gwaharddiad i Armitage fod yn ergyd arall i gynlluniau Martin Johnson sydd eisoes wedi colli ei gapten, Lewis Moody, y clo Courtney Lawes a’r blaenasgellwr Tom Croft.