Mae rhagfarn yn erbyn Mwslemiaid yn cael ei ystyried yn dderbyniol ym Mhrydain, yn ôl cadeirydd y blaid Geidwadol.
Dywedodd y Farwnes Warsi bod y tueddiad i rannu Mwslemiaid mewn i grwpiau “cymedrol” ac “eithafol” yn arwain at gamddealltwriaeth a rhagfarn.
Ychwanegodd bod y cyfryngau yn cyfeirio at grefydd mewn modd “nawddoglyd ac arwynebol” a bod hynny wedi arwain at ragfarn tuag at bobol grefyddol yn gyffredinol.
Dywedodd ei bod hi wedi codi’r mater â’r Pab yn ystod ei ymweliad â Phrydain y llynedd, gan ei annog i greu “dealltwriaeth well rhwng Ewrop a’i dinasyddion Mwslimaidd”.
Ni ddylai troseddau gan ychydig o Fwslimiaid gael eu defnyddio er mwyn beirniadu pob Mwslim, meddai.
Ond mae hi hefyd yn annog cymunedau Mwslimaidd i fynegi yn gliriach eu bod nhw’n gwrthwynebu’r rheini sy’n annog trais eithafol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, David Cameron, bod y Farwnes Warsi yn “datgan ei barn. Mae’r Prif Weinidog yn cytuno ei fod yn ddadl werth ei chael”.