Mae Heddlu Rhydaman yn ymchwilio ar ôl i ddau ddyn ddwyn arian o siop prydau parod ym Mhenybanc, Rhydaman.

Digwyddodd y drosedd toc cyn 11 o’r gloch nos Sadwrn, 15 Ionawr 2011, yn Asia Kitchen y dref.

“Fe aeth dau ddyn i mewn i’r busnes a dwyn yr arian,” meddai’r Ditectif Arolygydd Steve Cockwell. “Cawsant eu dal gan staff a sylweddolodd bod cyllell gan un o’r troseddwyr.”

Yn ôl disgrifiad yr heddlu mae’r ddau ddyn yn wyn, yn denau, a tua 20 oed. Roedd y ddau’n gwisgo jîns tywyll, a topiau du oedd yn cynnwys hwdi.

Roedd y dyn cyntaf tua 6’1” gyda gwallt tywyll, byr. Roedd yr ail ddyn yn fyrrach, tua 5’8”, ac roedd ganddo wyneb crwn a gwallt tywyll, byr.

Dihangodd y ddau ar droed.

Mae’r Heddlu’n apelio am wybodaeth ar 101. Neu ffoniwch Taclo’r Tacle’ Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.