Wrth iddyn nhw ymgyrchu yn erbyn tocio 25% oddi ar gyllideb S4C, mae Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu ail-gyhoeddi llyfr am y frwydr wreiddiol i sefydlu’r sianel.

Diben ail-gyhoeddi ‘S4C- Pwy Dalodd Amdani? Hanes Ymgyrch Ddarlledu Cymdeithas yr Iaith’ yw “atgoffa pobol o’r frwydr a fu genhedlaeth yn ôl dros S4C,” meddai’r mudiad.

Bydd y llyfr yn ““symbyliad ar gyfer y frwydr heddiw” ac “wrth i ni wrth wynebu’r dyfodol”.

Mae modd ei lawrlwytho ar ffurf pdf yn ogystal â’i brynu yng nghyfarfodydd a digwyddiadau eraill Cymdeithas yr Iaith.

Rhagair

Mewn rhagair newydd i’r llyfr mae Meinir Ffransis yn dweud mai’r nod erbyn hyn yn sefydlu S4C newydd:

“Wedi ffurfio llywodraeth newydd yn Llundain ym Mai 2010, penderfynodd y Glymblaid Geidwadol/Ryddfrydol gwtogi’n ddifrifol ar wariant cyhoeddus mewn ymateb i’r argyfwng ariannol a achoswyd ynghynt gan y banciau yn y sector breifat.

“Bwriad y llywodraeth newydd oedd naill ai cwtogi’n ddifrifol ar gyllidebau cyrff cyhoeddus neu gael gwared â nhw’n gyfan gwbl. I’r Gweinidog Diwylliant newydd, Jeremy Hunt – g?r a gydnabai na wyddai fawr ddim am Gymru – rhyw gwango arall oedd S4C, ac fe aeth ati i geisio cwtogi ar ei chyllideb ac i geisio cael gwared â hi fel endid annibynnol. Ni wyddai ddim am gyfraniad y sianel at ddyfodol y Gymraeg, na dim chwaith am ei hanes hi – am y frwydr fawr a fu i’w sefydlu.

“Yn fwy difrifol, daeth yn amlwg nad yw pobl ifainc yng Nghymru’n gwybod fawr ddim am y frwydr hon chwaith. Wrth i ni wynebu brwydr newydd felly dros y sianel yn 2010, penderfynwyd ailgyhoeddi’r llyfryn hwn er mwyn ein hatgoffa o’r frwydr a fu genhedlaeth yn ôl ac fel symbyliad ar gyfer brwydr heddiw. Boed hyn hefyd yn symbyliad i ni wrth wynebu’r dyfodol.

“Ateb i anghenion yr ’80au oedd S4C yn ei ffurf ar y pryd. Mae angen yn awr nid yn unig amddiffyn S4C ond hefyd ddatblygu cwmpawd ei gweithgarwch er mwyn sicrhau fod y Gymraeg ar flaen datblygiadau yn yr oes ddigidol newydd.”