Caniatáu
Fe fyddai ariannu S4C drwy’r BBC yn anghyfreithlon yn ôl Siarter Brenhinol y gorfforaeth, meddai cyn weinidog treftadaeth Cymru heddiw.
Yn ôl Rhodri Glyn Thomas AC, mae cymal 47 siarter y BBC yn gwahardd y gorfforaeth rhag ariannu cwmnïau allanol gydag arian y drwydded, oni bai eu bod nhw’n rhan o’r BBC.
“Mae’r siarter yn dweud na all y BBC ariannu unrhyw gwmni annibynnol,” meddai wrth Golwg 360. “Rhaid i’r cwmni fod yn is-gwmni i’r BBC.”
Yr awgrym yng nghymal 47 o’r Siarter Brenhinol, yn ôl darlleniad Rhodri Glyn Thomas, yw y byddai’n rhaid i S4C fod yn gwmni atodol i’r BBC cyn y gallai’r gorfforaeth ei hariannu’n gyfreithlon.
Yr ateb
Yr unig opsiynau, yn ôl darlleniad Rhodri Glyn Thomas, fyddai anwybyddu’r Siarter – a fyddai’n anghyfreithlon – neu wneud S4C yn gwmni atodol i’r BBC.
Petai’r ail opsiwn yn cael ei gweithredu, rhybudd yr Aelod Cynulliad yw y byddai “S4C yn colli wi hannibyniaeth”.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas wrth Golwg 360 mai dim ond un ateb sydd i’r broblem.
“Rhaid i S4C gael ei hariannu’n uniongyrchol o’r drwydded, yn hytrach na’r BBC,” meddai. “Partneriaeth gyfartal yw’r unig ateb.”
Mae’r cyn weinidog treftadaeth hefyd yn dweud fod angen i bobl sylweddoli nad oes gan y BBC hawl arbennig i arian y drwydded deledu.
“Trwydded deledu ar gyfer darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus yw e – nid trwydded y BBC. Mae pobl wedi camgymryd fod gan y BBC hawl uniongyrchol i arian y drwydded.”