Adeilad Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae bwrdd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhoi sêl bendith i gynllun i uno pedair ysgol mewn dwy ardal.

Mae rhai rheini wedi gwrthwynebu’r ddau gynllun a bydd unrhyw gwynion ffurfiol yn mynd at y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Pleidleisiodd y cyngor yn unfrydol o blaid cyfuno ysgolion Maes yr Yrfa yng Nghefneithin ac Ysgol y Gwendraeth yn Nrefach, ar safle presennol Maes yr Yrfa.

Fe fydd Ysgolion Pantycelyn yn Llanymddyfri a Tregib yn Llandeilo hefyd yn cael eu disodli gan ysgol newydd.

Mae’r cyngor wedi cael £23.7m gan Lywodraeth Cymru ac yn gwario £4.9m o’u cyllideb eu hunain ar yr ysgol newydd tair i 19 oed yn Ffairfach ger Llandeilo.

Mae rhieni eisiau gweld yr ysgol yn cael ei adeilad rhwng y ddwy dref, yn Llangadog.