Eglwys Yr Holl Saint, Maerdy
Mae plwyfolion eglwys yn y Rhondda wedi gwrthod gadael adeilad fydd yn cael ei chau am byth, yn dilyn y gwasanaeth olaf ddydd Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp yng Nghapel Yr Holl Saint, y Maerdy, eu bod nhw’n bwriadu aros yno nes bod yr Eglwys yng Nghymru yn caniatáu iddo aros ar agor.

Yn ôl yr eglwys mae angen £400,000 er mwyn adnewyddu’r adeilad ac y byddai yn gwneud rhagor o synnwyr gwario’r arian ar gadw eglwysi sydd mewn cyflwr gwell ar agor.

Dywedodd Archesgob Cymru heddiw nad oes “unrhyw un eisiau gweld yr eglwys yn cau” a bod ei “weddïau gyda holl aelodau Yr Holl Saint” wrth iddyn nhw wynebu colli’r adeilad.

‘Dim agenda cudd’

“Nid oes gan yr Eglwys yng Nghymru unrhyw agenda cudd ar hyn o gwbl – mae’n fater syml o ymarferoldeb a chronni ein hadnoddau er mwyn sicrhau y gall y gymuned barhau i addoli ym Maerdy,” meddai Dr Barry Morgan, esgob Llandaf.

“Fe wnaeth aelodau o’r PCC (Cyngor Plwyfol yr Eglwys) wneud y penderfyniad i gau Eglwys Yr Holl Saint yn seiliedig ar dystiolaeth ei fod wedi mynd yn rhy ddrud i atgyweirio a chadw’r adeilad  mewn cyflwr diogel, yn ogystal â chael digon o arian i dalu’r costau cynnal a chadw bob mis. Mae’r PCC yn cynnwys pobl a etholir gan y tair eglwys yn yr ardal a does neb wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig,” meddai.

Dywedodd nad oedd y penderfyniad yn un “a gymerwyd heb fod rhaid” a’i fod wedi’i drafod “sawl gwaith dros y blynyddoedd” – ond nad oedd opsiwn arall heblaw cau ar y pryd. “Rwy’n credu, felly mai dyma oedd y penderfyniad cywir.”

“Nawr, mae’r gynulleidfa wedi cael cynnig defnyddio’r neuadd gymunedol am ddim, ac rwy’n credu mai dyna’r ateb delfrydol. Nid yw cau’r adeilad yn ddiwedd ar yr eglwys. Mae hyn yn nodi dechrau cyfnod newydd ar gyfer Eglwys Yr Holl Saint, ac rwy’n gobeithio y bydd y gymuned gyfan ymuno â mi i barhau i’w cefnogi wrth iddynt gymryd y cam hwn a symud ymlaen.

“Mae gan yr Eglwys yng Nghymru bresenoldeb cryf yng Ngwm Rhondda gyda 23 o eglwysi a 10 o offeiriad yn y gymuned.”

126 o flynyddoedd

Ond dywedodd cynghorydd lleol wrth Golwg360 fod y grŵp cymunedol yn benderfynol o geisio sicrhau dyfodol Eglwys Yr Holl Saint.

“Dyma ein heglwys leol. Mae wedi bod ar agor ers 126 o flynyddoedd ac rydan ni’n teimlo fod y penderfyniad i’w gau wedi’i wneud ar hast,” meddai’r Cynghorydd Gerwyn Evans wrth Golwg360.

Mae’n dweud na chafodd pobl leol roi eu barn ar y mater – dim ond aelodau’r PCC – ac na gynigwyd unrhyw opsiynau eraill, dim ond cau.

“Fe gafodd y penderfynid ei wneud y tu ôl i ddrysau caeedig,”  meddai cyn dweud dylai’r cyngor fod wedi ystyried pob opsiwn – ac nad oedd bobl leol yn ymwybodol o’r “darlun ehangach”.

Trefnodd y cynghorydd a grŵp lleol cyfarfod cyhoeddus 27 Mehefin ac roedd “tua 100 o bobol” yn bresennol, meddai.

“Roedd y gefnogaeth yn wych,” dywedodd cyn dweud ei fod wedi creu grŵp Cyfeillion Eglwys Yr Holl Saint yn sgil y cyfarfod er mwyn ceisio “sicrhau dyfodol yr Eglwys”.

“Dydyn ni ddim yn cytuno mai cau yw’r unig opsiwn,” meddai cyn son bod y grŵp wedi bod yn eistedd yn yr eglwys ers ddoe. Maen nhw’n bwriadu bod yno drwy’r wythnos – ddydd a nos, meddai.

‘Gweledigaeth’

“Fe ges i amser i adlewyrchu neithiwr. Roedd son am dlodi ac amseroedd caled yn 1885 – ond roedd ganddyn nhw’r weledigaeth i gadw’r Eglwys yn agored. Fedrwn i ddim gadael i’r lle gau oherwydd amseroedd caled. Mae’n rhaid i ni roi ein holl egni i mewn i’r peth,” meddai.

Ychwanegodd fod 81 o bobol – llawer ohonynt yn blant – wedi marw yn dilyn trychineb cloddio yno yn 1885.

Byddai gwerthu’r Eglwys a’r tir sy’n gartref i blac coffa sy’n nodi’r trychineb yn  “ergyd drom” i bobl yr ardal ac yn “sgandal”, meddai’r cynghorydd.

Ar hyn o bryd, mae tua 20 o bobl yn eistedd yn yr Eglwys. Ac er y bydd gwasanaeth yr Eglwys yn cael ei gynnal yn y Ganolfan gymunedol ddydd Sul nesaf, ni fydd grŵp Cyfeillion Eglwys Yr Holl Saint yn addoli yno, meddai.

“Fe fyddwn ni’n addoli yn Eglwys Yr Holl Saint, 9.30am Ddydd Sul nesaf – yn canu ac yn darllen o’r Beibl. Does gennym ni ddim bwriad mynd i’r Ganolfan Gymunedol pan mae gennym ni Eglwys yn barod.

“Mae hyn wedi dod a phobl at ei gilydd – rydan ni’n brwydro dros yr un achos.”