Lembit Opik
Bydd cyn Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Lembit Opik, ymysg yr enwogion a fydd yn cymryd rhan yng nghyfres newydd Cariad@Iaith.

Yr enwogion eraill yw Rhys Hutchings, Josie d’Arby, Helen Lederer, Sophie Evans, Melanie Walters, Matt Johnson, a Colin Charvis.

Mae Colin Charvis yn gyn-gapten ar Gymru ac yn gyn-Lew.

Actores yw Melanie Walters, sydd yn fwyaf enwog am chwarae rhan Gwen yn Gavin and Stacey.

Mae Rhys Hutchings yn aelod o fand Goldie Looking Chain.

Actores yw Helen Lederer sydd wedi ymddangos yn ‘French and Saunders’ a ‘Harry Enfield’s Television Programme’.

Mae Josie d’Arby yn gyflwynydd ‘Children in Need’ ar y BBC a ‘The Bigger Breakfast’ ar Channel 4.

Ymddangosodd Sophie Evans ar raglenni canu The X Factor ac Over the Rainbow.

Mae Matt Johnson yn gyflwynydd rhaglen OK!TV ar Channel 5.

Bydd y camerâu’n dilyn y dysgwyr Cymraeg newydd wrth iddynt astudio Cymraeg am bedair awr bob dydd o dan arweiniad y cyflwynydd a’r tiwtor iaith Nia Parry a’r tiwtor iaith Ioan Talfryn.

Fe fydd y gyfres, a ddarlledir dros wythnos o nos Wener ymlaen, yn dilyn y sêr mewn sioeau nosweithiol awr o hyd.