Swyddfa S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer 2012-15, yn sgil y toriadau mawr i gyllideb y sianel.
Mae’r sianel wedi cyhoeddi y bydd eu cyllideb ar gyfer gwneud rhaglenni yn cwympo i isafswm o £65m y flwyddyn yn y cyfnod hwnnw, o’i gymharu â chyllideb rhaglenni o £83m yn 2010 a £78.7m yn 2011.
Mae cynlluniau y sianel yn cynnwys rhagor o raglenni i blant a diflaniad Wedi 3, chwaer raglen Wedi 7.
Yn ôl S4C bydd “maint y cwtogi yn arwain yn anochel at leihad yn y nifer o raglenni gwreiddiol a gomisiynir, a’r math o amserlen fydd ar gael”.
“Mae hyn yn golygu bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i gomisiynu rhaglenni sydd ‘rhaid eu gweld’ ac sy’n ‘apwyntiad i wylio’.
“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn gwylio’r teledu yn ystod yr oriau brig. Mae’n naturiol, felly, mai yn ystod y cyfnod yma y dylai S4C wario’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus mae’n ei dderbyn.
“Mae S4C am wynebu’r dyfodol yn hyderus – a hynny er gwaetha’r ffaith bod ’na lai o arian ar gael a bod ’na newid yn y ffordd y bydd y Sianel yn cael ei chyllido.”
Bydd y newidiadau yn dechrau ym mis Mawrth 2012, medden nhw.
“Ein nod yw ymestyn apel y sianel, a gwneud hynny heb ddieithrio’r gynulleidfa bresennol,” meddai’r ddogfen.
‘Ailwampio’
Dywedodd S4C eu bod nhw’n bwriadu ailwampio amserlen rhaglenni’r sianel o ganlyniad i’r toriadau 25% gyhoeddwyd yn ystod yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ym mis Hydref.
Yn ôl penaethiaid y sianel bydd rhagor o bwyslais ar yr oriau hynny gyda’r hwyr sy’n denu’r nifer fwyaf o wylwyr.
Mi fydd S4C yn darlledu rhaglenni Cymraeg o’r bore cynnar tan nos – o 07.00 i 23.00 – os nad oes “rhesymau golygyddol a chyllidebol cryf dros wneud hynny”.
Bydd y gwasanaethau i blant, gan gynnwys Cyw a Stwnsh, yn cael eu hymestyn er mwyn llenwi’r rhagor o amser y tu allan i’r oriau brig.
Yn ogystal a llenwi oriau yn y bore bydd Cyw yn cael ei ddarlledu eto yn y prynhawn, o 3pm i 5.30pm, gan gymryd lle Wedi 3.
Rhwng 5.30pm a 6.30pm mi fydd S4C yn darlledu Stwnsh, sef y gwasanaeth ar gyfer plant hŷn rhwng 7 a 12 oed.
Bydd rhaglen gylchgrawn newydd yn y prynhawn rhwng 1pm a 3pm a fydd yn cynnwys “cyfle i ail-becynnu cynnwys a manteisio ar y cyfoeth o ddeunydd sydd yn ein harchif,” meddai’r ddogfen.
Bydd Pobol y Cwm yn cael ei ddangos am 8pm ac yna eto am 10pm.
Mae rhannau eraill o’r ddogfen yn awgrymu y bydd rhagor o ailddarlledu ar y sianel nag oedd o’r blaen.
Mi fydd darlledu nos Sul yn dod i ben “gyda hanner awr o raglen fydd yn cloriannu rhaglenni’r sianel o’r wythnos flaenorol”.
“O’r wythnos ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol tan ddechrau Medi mi fydd ’na dymor o ailddarlledu. Mi fydd hyn yn golygu y byddwn ni’n gwneud y gorau o’n harchif gan roi dewis i’r gwylwyr holi am gyfle i weld ‘trysor’ neu hen ffefryn o’r gorffennol.
“Mi fyddwn ni hefyd yn rhoi cyfle arall i’r gwylwyr weld cyfresi poblogaidd. Mi fyddwn ni’n llunio amserlen sy’n ailddarlledu rhai o’n prif ddramau er mwyn sicrhau gwerth am arian.”
Mae’r ddogfen hefyd yn awgrymu y bydd y sianel yn gwneud rhagor o ddefnydd o’r trac Seasneg ‘botwm coch’ yn y dyfodol.
“Lle fydd hynny’n bosib ac yn addas mi fyddwn ni’n ceisio cynnig gwasanaeth trac sain Saesneg dewisol ar ein darpariaeth o ddigwyddiadau a chwaraeon,” meddai’r ddogfen.
“ Mae gwasanaeth o’r fath yn ffordd o estyn cyrhaeddiad ac effaith fasnachol y cynnwys gan ddenu gwylwyr newydd at y Sianel.
“ Mae hyn yn rhoi cyfleoedd inni farchnata gweddill ein cynnwys i gynulleidfa newydd. Mi fydd y ddarpariaeth yma’n parhau i gael ei hariannu o ffynhonnell fasnachol.”
Comisiynu rhaglenni
Yn ôl y ddogfen mae llond dwrn o raglenni yn saff o’r toriadau, gan gynnwys:
Pobol y Cwm
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Rownd a Rownd
Eisteddfod yr Urdd
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Y Sioe Frenhinol
Newyddion
Tywydd
Cyw
Stwnsh
Dywedodd S4C eu bod nhw’n bwriadu mabwysiadu ffordd newydd o gomisiynu fydd yn cynnwys tair ‘ffenestr’ bob blwyddyn, ochr-yn-ochr â phroses gomisiynu ddi-dor yn ôl yr angen.
Bydd cytundebau “yn cael eu cynnig ar sail cystadleuaeth tendr agored a thryloyw”.
‘Hyd yn oed yn well’
“Gofynion y gwylwyr fu’r brif flaenoriaeth wrth lunio Gweledigaeth newydd fydd yn bywiocáu gwasanaeth S4C ar y sgrîn,” meddai Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen.
“Mae S4C yn wynebu’r dyfodol yn hyderus er gwaetha’r ffaith bod yna lai o arian ar gael a bod yna newidiadau i’r ffordd y bydd y Sianel yn cael ei chyllido.
“Mae’r her sylweddol sy’n ein hwynebu yn golygu bod yn rhaid i ni feddwl am ffyrdd creadigol ac arloesol o ddatblygu’r gwasanaeth mewn cyfnod o newid a chydgyfeiriant.
“Rydym wedi edrych o’r newydd ar S4C er mwyn cynnig gwasanaeth fydd hyd yn oed yn well ar gyfer ein gwylwyr a’n defnyddwyr.
“Bydd ein Gweledigaeth newydd yn cynnig amrywiaeth o gynnwys safonol ar gyfer gwylwyr a defnyddwyr o wahanol gefndiroedd, oedrannau ac ardaloedd. Mae’n wasanaeth fydd yn apelio at Gymru a Chymry drwy ymateb i ofynion a disgwyliadau ein cynulleidfa.
“Byddwn yn cynnig cynnwys sy’n wreiddiol, yn ddyfeisgar, yn heriol ac yn ddeniadol – rhaglenni sy’n ‘rhaid eu gweld’ fydd yn dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd i drafod a rhannu profiadau.”
Ymateb
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:, fod yr “adroddiad yn cadarnhau’r hyn rydyn ni, fel ymgyrchwyr, wedi bod yn proffwydo ers y llynedd”.
“Mae pobl Cymru yn mynd i dderbyn safon is o raglenni oherwydd cwtogiad ar grant y Llywodraeth i S4C o 94%.
“Fe fyddwn ni’n cynnal rali ddydd Iau nesaf tu allan i Lys Ynadon Caerdydd cyn i ddau o’n haelodau wynebu’r carchar dros y sianel.
“Mae unig sianel deledu Gymraeg y byd ar fin diflannu oherwydd cydgynllun BBC a’r Llywodraeth. Maen nhw’n gwrthod gwrando ar y 13,000 o bobl a lofnododd ein deiseb, Archesgob Cymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, Pwyllgor Diwylliant San Steffan, arweinwyr y pleidiau yng Nghymru, a’r 2000 o bobl a fynychodd ein rali yn y brifddinas.
“Mae mwy a mwy o bobl yn datgan eu bod nhw’n gwrthod talu eu trwyddedau teledu achos y bygythiad i ddarlledu yng Nghymru, mae’n debyg mai dyna’r unig beth sydd yn mynd atal y toriadau hyn.
“Mae’n bwysig bod rheolwyr y sianel yn sylweddoli nad yw’r Gymraeg ar gyfer plant yn unig, dyna pam mae’n bwysig bod yna raglen cylchgrawn i oedolion yn y prynhawn. Os yw’r Gymraeg i fyw, mae rhaid i S4C adlewyrchu bywydau pobl o bob oedran ar y sgrin.
“Drwy gydol ein hymgyrch rydyn ni wedi bod yn galw am S4C newydd – rhaid i’n sianel genedlaethol ni symud at fod yn ddarparwr aml-gyfryngol. Fydd hynny ddim yn bosibl gyda thoriad mor sylweddol.”