Mae disgwyl y bydd cannoedd o bobol yn Mart y Dre y Trallwng brynhawn yma wrth i Gyngor Sir Powys gynnal cyfarfod i drafod codi ffermydd gwynt yn y sir.
Mae’r sesiwn yn symud o neuadd y sir i’r farchnad da byw newydd yn y dref er mwyn gwneud lle i’r tyrfa, y rhan fwyaf yn gwrthwynebu’r cynllun.
Bydd y cyfarfod yn gyfle i drigolion wrando ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn codi’r melinau gwynt a’r peilonau sy’n rhan o gynllun Tan 8 Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynghorwyr yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu TAN8.
Mae’r protestwyr yn pryderu y bydd y melinau gwynt a’r peilonau fydd eu hangen i gario’r trydan dros y ffin yn hagru’r ardal ac yn arwain at lai o dwristiaid yn ymweld yno.
“Mae ffermydd gwynt, is-orsafoedd trydan a’r peilonau fydd yn cysylltu â’r Grid Cenedlaethol yn bynciau llosg ym Mhowys,” meddai Cadeirydd y Cyngor, Barry Thomas.
Dywedodd y bydd y cyngor yn ystyried galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cynllun TAN 8 ar frys.
‘Clywed’
“Mae’n bwysig bod y ddadl hon yn cael ei chlywed gan gymaint o bobl â sy’n bosibl – ac rydym wedi penderfynu symud y cyfarfod i’r Trallwng am y tro cyntaf erioed,” meddai.
“Dim ond rhywfaint o le sydd yn Neuadd y Sir ac ni fyddai lle i’r dorf sy’n bwriadu dod. Mae’r farchnad da byw yn gallu ymdopi gyda’r niferoedd a bydd yn llawer mwy cyfleus i fwyafrif y bobl sydd am fod yn bresennol.”
Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 2.00 heddiw ac yn cael ei gynnal yn swyddfeydd y farchnad da byw.
‘Teimlad cryf’
“Dw i’n gobeithio y bydd y cyfarfod yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwneud i’r Cyngor weld nad yw pobl ishe fe,” meddai Ifan Davies, contractwr amaethyddol o’r Trallwng.
“Mae ’na deimlad cryf am y peth yn lleol. Dim ond pobl sy’n gwneud arian allan ohono sydd eisiau’r peth. Mae cwmnïau’n gwneud arian – ond ni’n sy’n talu amdano.”
“Rydan ni eisiau i’r Cyngor weld bod pobl yn ei erbyn ac eisiau adolygiad o’r polisi.”
Malan Wilkinson