Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi datgan eu cefnogaeth i streic fawr yr athrawon yfory – er na fydd aelodau’r undebau yn ymuno â nhw.
Bydd hyd at 750,000 o athrawon, darlithwyr, gweithwyr sifil a gweithwyr eraill yn mynd ar streic 24 awr yfory.
Bydd 3.200 o ysgolion awdurdodau lleol ar draws Prydain yn cau yfory, yn ogystal â 84 academi.
Bydd y streiciau gan bedair undeb wahanol yn mynd yn eu blaenau er gwaethaf dwy awr o drafodaethau rhwng gweinidogion ac arweinwyr undebau ddydd Llun.
“Rydym yn cefnogi’r streic gant y cant. Mae mileindra ymosodiad Llywodraeth San Steffan ar bensiynau’r sector gyhoeddus, gan gynnwys pensiynau athrawon a darlithwyr, yn gwbl ddianghenraid,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
Roedd yn dweud bod “cynigion y Llywodraeth yn gyfystyr a thoriad cyflog sylweddol yn syth bin” ac y bydd yn achosi “tlodi i athrawon a darlithwyr yn eu hymddeoliad”.
“Mae’n amlwg mai ceisio lleihau dyledion y wlad yn y tymor byr yw bwriad y Llywodraeth, nid sicrhau cynaladwyedd tymor hir y cynllun,” meddai.
“Mae’n anfoesol i ddinistrio system sy’n gweithio’n effeithiol ac sy’n darparu pensiwn teg i weithwyr – a hynny er mwyn hwylustod gwleidyddol.”
Mae UCAC ar fin agor ei falot ei hun ynghylch streicio i amddiffyn pensiynau. Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Medi.
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi mynnu fod y diwygiadau “yn deg”, ond dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Ed Miliband, ei fod “yn deall pam fod athrawon mor grac â’r Llywodraeth”.