Taflenni 'Ie' dros Gymru
Gwariodd yr ymgyrch ‘Ie’ yn y refferendwm ar ragor o bwerau i’r Cynulliad 35 gwaith mwy o arian na’r ymgyrch ‘Na’.
Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos fod yr ymgyrch Ie wedi gwario £140,000 tra bod yr ymgyrch Na wedi gwario llai na £4,000.
Gwariodd yr ymgyrchwyr ‘Na’, gan gynnwys mudiad Gwir Gymru, £3,800. Fe wariodd Gwir Gymru £385.20 ar fochyn anferth llawn aer oedd yn fascot i’w hymgyrch.
Roedd yr ymgyrch canolog Ie dros Gymru wedi gwario £81,000. Cyfrannodd y Blaid Lafur £10,000, Plaid Cymru £9,350 a’r Democratiaid Rhyddfrydol £7,200 at yr ymgyrch.
Gwariodd Cymru Yfory £10,000, tra bod undeb Unison wedi gwario £8,600 a TUC Cymru £5,000.
Cafodd gweddill yr arian ei wario gan ymgyrchoedd sirol, gan gynnwys £4,711 yng Ngheredigion.
Dywedodd Rachel Banner, llefarydd Gwir Gymru, fod y ffigyrau yn brawf mai ymgyrch y bobol yn erbyn y sefydliad oedd ei un hi.