Andrew RT Davies
Mae cynorthwyydd i un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol wedi ei atal o’i waith dros dro ar ôl i negeseuon amheus ymddangos ar wefan cymdeithasol.
Penderfynodd Andrew RT Davies atal Vincent Bailey, 31 oed, sydd yn trefnu ei ymgyrch, o’i waith ar ôl i’r wasg dynnu ei sylw at y negeseuon ar wefan MySpace.
Mae Vincent Bailey wedi bod yn ymchwilydd iddo ers mis Awst y llynedd. Mae Andrew RT Davies yn cystadlu â Nick Ramsay am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.
Daeth y negeseuon, sy’n dyddio yn ôl i 2006, i’r amlwg ar ôl i’r Blaid Lafur dynnu sylw papur newydd y Western Mail.
Yn ôl y papur roedd y negeseuon sy’n ymddangos fel tynnu coes yn cynnwys awgrymiadau ei fod wedi cymryd cyffuriau.
Dywedodd Andrew RT Davies fod y negeseuon wedi ymddangos blynyddoedd yn ôl, cyn iddo gyflogi Vincent Bailey.
“Pan glywais i am y cyhuddiadau penderfynais o fewn yr awr i atal Vincent Bailey o’i waith yn syth, cyn cynnal ymchwiliad ar y cyd â chymorth adran adnoddau dynol y Cynulliad.”
Ond mynnodd llefarydd ar ran y blaid Lafur nad oes gan negeseuon o’r fath “unrhyw le mewn gwleidyddiaeth Gymreig”.
Dywedodd Vincent Bailey nad oedd wedi defnyddio ei gyfrif MySpace ers blynyddoedd a nad y fo oedd wedi ysgrifennu’r sylwadau.
Ychwanegodd y byddai “yn cyd-weithredu yn llawn â’r ymchwiliad”.