Clawr y llyfr
Bydd rhaid i Blaid Cymru ail ystyried ddifrif yr hyn y maen nhw’n ei gynrychioli dros y blynyddoedd nesaf, yn ôl awdur llyfr newydd sy’n trafod y tyndra rhwng cenedlaetholdeb a sosialaeth y blaid.
Yn ôl Dr Alan Sandry, mae Plaid Cymru wedi bod yn rhy barod i arddel eu hunaniaeth ‘cenedlaetholgar’, a hynny heb gydnabod mai plaid sosialaidd ydyn nhw yn y bôn.
“Mae’r gyfrol yn gwrthwynebu’r syniad mai plaid genedlaetholgar yn unig yw Plaid Cymru,” meddai.
“Mae’n pwysleisio mai sosialaeth sudd wedi gyrru datblygiadau gwleidyddiaeth a pholisi Plaid Cymru.”
Mae ei gyfrol newydd, Plaid Cymru: An Ideological Analysis, yn edrych ar ddatblygiad y blaid ers 1925 a’r polisïau a’r personoliaethau sydd wedi ei llywio.
“Mae Plaid Cymru yn sicr yn blaid wahanol iawn i’r un a sefydlwyd yn 1925,” meddai Dr Sandry, sy’n ddarlithydd gwleidyddiaeth yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.
“Fel pob plaid a phob person, mae’n esblygu o hyd. Mae syniadau – a digwyddiadau – yn gyrru newid,” meddai.
“Mae’r blaid bellach ar groesffordd, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddi newid eto.”
‘Angen bod mwy clir’
Un o wendidau Plaid Cymru, yn ôl Dr Sandry, yw’r diffyg eglurder ynglŷn â chyfeiriad gwleidyddol y blaid.
“Mae’n bwysig bod yn glir ynglŷn â’r syniadau sydd y tu cefn i’r blaid,” meddai. “Mae termau megis sosialaeth ddatganoledig, a hyd yn oed annibyniaeth, yn dermau anodd i’r cyhoedd eu deall.”
Mae ei argymhelliad yn un sydd wedi ei adleisio gan Brif Weithredwraig newydd Plaid Cymru, Rhuanedd Richards.
Wrth drafod ei gweledigaeth ar gyfer y blaid ddoe, dywedodd mai un o wersi pwysicaf etholiad 5 Mai i Blaid Cymru oedd “bod angen i ni ddiffinio ein neges yn fwy clir, ac mewn ffordd sydd yn fwy perthnasol i fywyd bob dydd y bobol”.
Deng mlynedd o ymchwil
Cyhoeddwyd hanes ideolegol Plaid Cymru wedi degawd o waith ymchwil gan Alan Sandry.
“Roeddwn I wedi cwblhau PhD mewn ideoleg wleidyddol, ac o hynny daeth y diddordeb, wrth weld ideoleg gymhleth Plaid Cymru ar waith,” meddai.
Mae’r gyfrol Plaid Cymru: An Ideological Analysis sydd wedi ei chyhoeddi gan y Welsh Academic Press ar werth am £48.