Mae ymgyrchwyr iaith wedi dringo gorsaf drosglwyddo heddiw er mwyn protestio yn erbyn toriadau arfaethedig i ddarlledu yng Nghymru.
Dywedodd aelodau mudiad Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw wedi dringo adeilad cyfnewid teledu yn Nebo ger Caernarfon.
Ymysg y protestwyr sydd wedi dringo’r gorsaf drosglwyddo rhwng Llanddona a Llanon mae Robin Cragg, 25 mlwydd oed o Nebo a Bethan Williams, 24 mlwydd oed o Eglwyswrw, Sir Benfro.
Daw hyn wrth i brotest ar wahân barhau y tu allan i ganolfan darlledu y BBC ym Mangor, sydd wedi ei fygwth gan y toriadau.
Mae BBC Cymru yn wynebu toriadau o 20% ac S4C yn wynebu toriadau o 25% yn eu cyllidebau.
“Mae pethau’n ddu iawn ar ddarlledu yng Nghymru. Mae yna berygl fydd dim rhaglenni gan S4C na BBC Cymru o dan law y toriadau felly mae’n debygol iawn mai dyma’r dyfodol i ddarlledu yng Nghymru, sef teledu môr-leidr,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Rydym am weld gwasanaeth teledu cyflawn i Gymru felly mae’n rhaid i S4C barhau yn annibynnol a chael arian digonol. Ar hyn o bryd dydy’r un o’r ddau beth yma ddim yn sicr ar gyfer S4C, mae hynny yn ein pryderu.”
Sticeri ar swyddfa
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw hefyd wedi paeintio sloganau yn gwrthwynebu’r toriadau ar swyddfa etholaeth Guto Bebb, Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, neithiwr.
“Mae cyd-gynllun llywodraeth Prydain a’r BBC i dorri ar gyllid S4C a rhoi y sianel dan y BBC yn peryglu dyfodol y sianel,” meddai.
“Mae Guto Bebb wedi cyfiawnhau y toriadau hyn yn gyhoeddus, mae’n cadw cefn ei Blaid ar draul ein cymunedau a’n gwasanaethau.”