Wylfa
Mae grŵp ymgyrchu sy’n gwrthwynebu codi Wylfa B ar Ynys Môn wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cymryd rhan mewn ymgyrch di-drais ym mis Hydref.
Y bwriad yn ôl y llefarydd ar ran grŵp Pobl yn Atal Wylfa B (PAWB) yw cymryd rhan mewn blocâd wedi ei drefnu gan fudiad Stop New Nuclear yng ngorsaf bŵer niwclear Hinkley.
Bydd gorsaf Hinkley B yn cau cyn bo hir a’r bwriad yw adeiladu olynydd iddo, Hinkley C, yn yr un modd â gorsaf niwclear Wylfa.
Mae’n debygol mai Hinkley C ger Bridgwater yng Ngwlad yr Haf fydd y cyntaf o’r wyth gorsaf pŵer newydd i gael eu hadeiladu, os yw’r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo.
Dywedodd Dylan Morgan o PAWB mai’r nod oedd “trefnu bws i Hinkley” fis Hydref er mwyn cefnogi achos Stop New Nuclear.
Ychwanegodd y “gallai blocâd Hinkley arwain at gyfnod o weithredu mwy uniongyrchol”.
Roedd PAWB hefyd yn bwriadu “cynnal cynhadledd undydd gyda phobl flaenllaw yn annerch tua diwedd Hydref” gan gynnwys siaradwyr o’r Almaen, Ffrainc ac Iwerddon.
Cynghrair o grwpiau lleol a chenedlaethol sy’n ymgyrchu dros atal adeiladu gorsafoedd ynni niwclear newydd yw Stop New Nuclear.
Mae’r Gynghrair yn dadlau nad yw pŵer niwclear yn “angenrheidiol, diogel nac yn gynaliadwy”.