Bae Caerdydd
Mae ymgyrchwyr ac undebau wedi bod yn protestio y tu allan i gyfarfod rhwng Cadeirydd newydd Ymddiriedolaeth y BBC, Chris Patten, ac Aelodau Cynulliad.

Digwyddodd y cyfarfod i drafod dyfodol darlledu yng Nghymru ym Mae Caerdydd heddiw.

Dywedodd yr Arglwydd Patten wrth yr ymgyrchwyr nad oedd yna “unrhyw sicrwydd gan y llywodraeth ynglŷn â faint o gyllid fydd ar gael ar ôl 2015”.

“Rydyn ni’n trafod y mater yma a rhai tebyg â Cadeirydd S4C ar hyn o bryd.

“Fe alla’i eich sicrhau chi fy mod i’n gwbwl ymroddedig i weld S4C sydd mor llwyddiannus a phosib.

“Dydw i ddim yn mynd i amddiffyn annibyniaeth y BBC ac yna tanseilio annibyniaeth rhywun arall.

“Felly rydyn ni eisiau sicrhau fod y partneriaeth ag S4C yn gweithio.”

Dim sicrwydd

Dywedodd Dr Simon Brooks, fu’n holi’r Arglwydd Patten ar ran yr ymgyrchwyr, eu bod nhw wedi cael “yr un fath o beth ag o’r blaen”.

“Geiriau o ewyllys da ond dim ymrwymiad pendant i lefel benodol  o arian i S4C ar ôl 2015 pan mae’r cytundeb rhwng y llywodraeth a’r BBC yn dod i ben,” meddai.

“A dyna ydi’r hyn sydd angen yn yr hir dymor. Tra nad ydyn nhw yn rhoi’r ymrwymiad yna mae yna na le i ofidio.

“Dydi o ddim chwaith yn gallu gwarantu annibyniaeth S4C. Mae o wedi ymladd yn galed dros y World Service, wedi sicrhau bod y llywodraeth yn rhoi rhagor o arian i’r world service ond hyd yma dydi o ddim wedi ymgyrchu o blaid S4C yn yr un ffordd.

“Y pryder yw y bydd yna bres yn mynd allan o S4C trwy’r drws cefn fel petai er mwyn bwydo bwystfil y BBC, ac mae rhaid osgoi hynny.

“Mae yna gonsensws yng Nghymru fod S4C yn bwysig. Ond corff Llundeinig ydi’r BBC. Tydi’r BBC yn Llundain, yn eu tyb nhw, ddim yn bodoli er mwyn gwasanaethu lleiafrif ieithyddol.

“Os ydyn nhw’n gorfodi S4C i gystadlu yn erbyn gwahanol adrannau yn y BBC ar ôl 2015 rydw i’n pryderu mai S4C fydd ar ei cholled.”

Y World Service

Daeth i’r amlwg heddiw fod Llywodraeth San Steffan wedi gwneud tro pedol ar doriadau arfaethedig  World Service y BBC, gan addo cyfrannu £2.2 miliwn ychwanegol at y gwasanaeth.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod hynny’n cynnig gobaith y bydd modd gweld tröedigaeth debyg ar fater toriadau 25% S4C a 20% BBC Cymru.

“Dylai’r BBC dynnu allan o’u bargen munud olaf sydd yn rhoi dyfodol unig sianel deledu Cymraeg y byd o dan fygythiad,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae BBC yn gwrthod ateb cwestiynau sylfaenol ar S4C. Maen nhw’n gwrthod gwarantu y bydd unrhyw arian ar gael ar gyfer y sianel wedi 2015.

“Mae Chris Patten wedi llwyddo i argyhoeddi’r llywodraeth fod angen mwy o arian i wasanaeth World Service y BBC.

“Ond dydyn ni ddim wedi ei glywed e yn gofyn i’r llywodraeth newid eu meddyliau ar fater S4C.”

Mae protestwyr Cymdeithas yr Iaith yn parhau i wersylla tu allan i stiwdios y BBC ym Mangor heddiw. Maen nhw wedi bod yno ers 8am ddydd Llun.