Mae ysbyty wedi ei feirniadu ar ôl darparu tambwrîn i gleifion hŷn ei ddefnyddio er mwyn galw ar staff.

Yr offeryn cerddorol yw’r unig ffordd i gleifion gael sylw yn ystafell ddydd Adain Orllewinol Clafdy Brenhinol Caerdydd.

Mae Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru wedi beirniadu’r ysbyty am beidio â gosod system addas er mwyn tynnu sylw.

Dywedodd perthynas un o’r cleifion yno wrth bapur newydd y Western Mail fod cleifion yn ofni defnyddio’r ystafell rhag ofn nad ydi staff yn clywed y tambwrîn.

“Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n tynnu fy nghoes am y tambwrîn nes i fi ei weld â’m llygaid fy hun,” meddai’r perthynas 65 oedd yn ymweld â’i mam 90 oed.

“Fe ysgwydais i’r tamborin am 16 munud da ond doedd yna ddim ymateb. Nid yw’n sioc nad ydi nifer o’r cleifion yn gwneud defnyddio o’r ystafell ddydd.”

Ychwanegodd fod pâr o maracas yno hefyd rhag ofn nad oes unrhyw un yn ymateb i’r tamborin.

Dywedodd Ruth Marks, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, nad yw defnyddio offerynnau cerddorol er mwyn tynnu sylw yn rhoi “unrhyw urddas, na diogelwch, i’r cleifion”.

“Efallai fod adnoddau yn brin ond mae gosod system fel bod cleifion yn gallu galw am gymorth yn amlwg yn flaenoriaeth.”