Mae 44 o bobol wedi marw ar ôl i awyren lanio ar briffordd yng ngogledd-orllewin Rwsia.
Glaniodd yr awyren mewn niwl trwchus ac yna mynd ar dân, wedi i oleuadau’r llain lanio gerllaw ddiffodd.
Goroesodd wyth o bobol, gan gynnwys hogyn 10 oed ac un o staff yr awyren, y trychineb. Maen nhw mewn cyflwr difrifol yn ysbyty Petrozavodsk.
Roedd yr awyren Tu-134, oedd yn eiddo i gwmni RusAir, ar ei ffordd o Moscow i ddinas Petrozavodsk, meddai’r Gweinidog Argyfwng Oksana Semyonova.
Ychwanegodd Oksana Semyonova fod yr awyren wedi chwalu tua milltir o faes awyr Petrozavodsk.
Doedd hi ddim yn amlwg a oedd yr awyren wedi ceisio glanio ar y ffordd neu wedi digwydd syrthio yno, meddai.
Mae Petrozavodsk yn rhanbarth Karelia, ger y ffin â Ffindir, tua 400 milltir i’r gorllewin o Moscow.
Dywedodd cyfarwyddwr y maes awyr, Alexei Kuzmitsky, fod y “tywydd yn anffafriol”.
Roedd yr awyren yn cario 52 o bobol, gan gynnwys naw aelod o staff. Roedd un o ddyfarnwyr Uwch Gynghrair Rwsia, Vladimir Pettay, a dyn o Sweden ymysg y rheini fu farw.