Rebecca Aylward
Fe fydd achos llys bachgen ysgol sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio merch ifanc yn dechrau heddiw.
Daethpwyd o hyd i gorff Rebecca Aylward, 15 oed, mewn coedwig ger Abercynffig i’r gogledd o Ben y Bont ar Ogwr, ym mis Hydref y llynedd.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am y ferch o Faesteg pan ddaethpwyd o hyd i’w chorff.
Fe fydd bachgen 16 oed, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed, yn wynebu llys yn Llys y Goron Abertawe heddiw.