Darren Millar
Mae wedi dod i’r amlwg bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi methu cydymffurfio gyda rhybuddion diogelwch sydd wedi eu cyflwyno i sicrhau nad ydy camgymeriadau difrifol yn cael eu hailadrodd.
Ac mae Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid yn rhybuddio bod bywydau celifion yn y fantol oherwydd y methiant.
Dywedodd yr AC Darren Millar bod gan gleifion yr hawl i deimlo’n gwbl ddiogel o dan ofal y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
“Mae cydymffurfio’n llawn gyda rhybuddion diogelwch nid yn unig yn bwysig, ond mae’n gwbl allweddol,” meddai’r Tori.
“Mae’n bryderus bod gymaint heb gael eu gweithredu erbyn y dyddiad cwblhau.
“Yn amlwg mae staff y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn gweithio’n galed ar draws Cymru, ond mae anawsterau yn atal gwelliannau pellach i ddiogelwch.
“Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad, sy’n torri ar gyllid y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, roi’r mater yma ar frig yr agenda.
“Mae angen i weinidogion gyfarfod â’r byrddau iechyd lleol a chanfod y problemau a gwneud yn siŵr bod rhybuddion diogelwch yn cael eu cymryd o ddifrif.”
Rhybuddion Diogelwch
Mae Rhybuddion Diogelwch Cleifion yn cael eu nodi gan Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion, pan maen nhw’n dod yn ymwybodol o broblemau sydd wedi achosi niwed neu ladd cleifion.
Mae rhybuddion wedi eu cyflwyno i atal camgymeriadau angheuol rhag digwydd eto.
Felly mae’n fodd i atal staff y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol osgoi’r un camgymeriadau sydd wedi arwain at niweidio neu ladd claf.