Llun ar You Tube o'r mwg (Digitalwizard666)
Mae mwg yn dal i godi’n  gwmwl trwchus o dân mewn storfa deiars ar gyrion Abertawe.

Yn ôl y gwasanaethau brys, fe allai gymryd dyddiau i’w ddiffodd yn llwyr, er ei fod dan reolaeth

Mae pobol leol yn ardal Fforest-fach yn dal i gael eu rhybuddio i gadw ffenestri a drysau ynghau ac mae rhai ffyrdd wedi eu cau yn y stad ddiwydiannol lle mae’r storfa.

Ond mae’r brif ffordd i mewn i Abertawe – Ffordd Caerfyrddin – wedi ei hagor eto ar ôl anhrefn brynhawn ddoe a neithiwr.

Mae yna rybudd y gallai hynny newid eto, pe bai’r gwynt yn newid cyfeiriad.

Atal llygredd

Ar un adeg, roedd 75 o ddiffoddwyr ac 18 o beiriannau tân yn ceisio diffodd y fflamau yn y storfa yn hen ffatri Mettoy.

Mae swyddogion o’r Asiantaeth Amgylchedd wedi bod yno hefyd yn ceisio lleihau effeithiau’r llygredd o’r mwgyn delio gyda’r ffyrdd a gweithwyr cyngor lleol yn delio gyda’r ffyrdd a’r probemau trafnidaeth.

Yn ôl pobol leol, dydyn nhw erioed wedi gweld mwg o’r fath ond mae Heddlu De Cymru’n dweud mai bychan iawn yw’r peryg i iechyd y cyhoedd.