Andrew Bridgen - dim achos
Fydd yr heddlu ddim yn dod ag achos llys yn erbyn Aelod Seneddol oedd wedi ei gyhuddo y ymyrryd yn rhywiol gyda gwraig ifanc.

Fe gyhoeddodd Heddlu Llundain heddiw bod Andrew Bridgen, AS Gogledd Orllewin Swydd Caerlŷr, wedi ei rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae yntau wedi dweud ei fod wedi ei “frifo” gan yr honiadau ac y bydd yn ystyried cymryd camre cyfreithiol yn erbyn y bobol a oedd wedi lledu’r “straeon celwyddog”.

Roedd y gwleidydd Ceidwadol  46 oed wedi cael ei arestio a’i holi yn hwyr y nos ar ôl i wraig 29 oed ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol arni.

Roedd Andrew Bridgen wedi gwadu’r honiad yn llwyr gan ddweud nad oedd unrhyw sail o gwbl i’r honiadau a bod modd profi nad oedden nhw’n wir.

Roedd yn flin hefyd bod cyhuddiad “mor wirion” wedi cael “cymaint o sylw”.

“Roedd yr honiad yn annheg ac yn brifo, nid yn unig yn fy mrifo fi ond hefyd fy ngwraig a ‘mhlant,” meddai.