Killimanjaro (Muhammad Mahdi Kharim CCA 3.0)
Mae rheolwr Abertawe wedi cwblhau ei daith elusennol i gopa mynydd Kilimanjaro.

Roedd y daith yn cael ei threfnu er mwyn codi arian at elusen Gofal Canser Marie Curie, a Rodgers yn cymryd rhan er cof am ei fam, Christina, a fu farw o’r afiechyd. Mae ei dad, Malachy hefyd yn brwydro’n erbyn yr un salwch ar hyn o bryd.

Roedd y Gwyddel yn rhan o grŵp o 28 o bobol oedd yn gwneud y daith.

Codi sgarff i ddathlu

Yn ôl gwefan yr Elyrch, fe gododd eu rheolwr sgarff y clwb i ddathlu ar ôl cyrraedd copa mynydd uchaf Affrica.

“Mae’r profiad wedi bod yn straen corfforol a meddyliol aruthrol – un o’r pethau anoddaf yn fy mywyd” meddai Rogers mewn cyfweliad ffôn lloeren gyda’r clwb. “Mae wedi bod yn ymdrech tîm anhygoel i gyrraedd y brig.”

Llwyddodd 90% o’r grŵp i gwblhau’r daith, sydd tua dwywaith mwy na’r cyfartaledd.

Mae ymdrech rheolwr yr Elyrch yn debygol o fod yn un werthfawr iawn i’r elusen gydag amcangyfrif ei fod wedi llwyddo i gasglu tua £20,000 mewn nawdd.

Gallwch gyfrannu tuag at yr apêl yma – www.justgiving.com/Brendan-Rodgers