Stadiwm Liberty - dim gwaith am bron flwyddyn
Mae Cadeirydd Abertawe wedi addo mai gwella’r tîm fydd yn dod gynta’ yng nghynlluniau gwario’r Elyrch.
Fe ddywedodd Huw Jenkins ei fod am fuddsoddi yng ngharfan chwaraewyr yr Elyrch cyn gwario ar faterion oddi ar y cae.
A fydd dim yn digwydd gyda chynlluniau i ddatblygu stadiwm y Liberty am bron flwyddyn.
Mae ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn golygu y bydd y clwb hyd at £90miliwn yn gyfoethocach, ac mae disgwyl i ganran o’r swm hwnnw gael ei wario ar ddatblygu cyfleusterau hyfforddi.
Blaenoriaeth
Er hynny, mae Jenkins wedi cyfaddef bod adeiladu carfan gref i’r Uwch Gynghrair yn flaenoriaeth.
“Y peth cyntaf a phwysicaf ydy gallu cystadlu yn yr Uwch Gynghrair,” meddai Jenkins wrth bapur lleol y South Wales Evening Post.
“Byddwn yn cryfhau’r tîm mewn safleoedd allweddol. Ein nod cyntaf yw i sicrhau ein bod yn cynnal ein lle yng nghynghrair orau’r byd.”
Datblygu’r Liberty
Mae Jenkins hefyd wedi datgelu bod cynlluniau i ehangu maint Stadiwm Liberty, gan ystyried bod y cyfanswm posib o 16,000 o docynnau tymor wedi eu gwerthu eisoes.
“R’yn ni wedi gweithio’n galed dros yr wyth neu ddeg blynedd diwethaf i gael y cyfle yma ac mae’n rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddal ati i adeiladu’r clwb yma.”
“R’yn ni’n edrych ar opsiynau amrywiol ar gyfer cynyddu maint y stadiwm a byddwn yn gwneud rhywbeth pan fo hynny’n bosib.
“Fe fydd yn anodd iawn yn ystod y tymor wrth inni chwarae felly’r cyfle cyntaf fydd mis Mai nesaf.”