Un o lefydd bwyta McDonald's (Chrisloader CCA 3.0)
Mae deietegydd wedi beirniadu’r Urdd am dderbyn nawdd gan gwmnïau bwyd sothach MacDonald’s a Coca-Cola ar gyfer pencampwriaeth chwaraeon.

Yn ôl Gwawr James o Fwrdd Iechyd Powys, mae’r nawdd i Gemau Cymru yng Nghaerdydd yn rhoi negeseuon cymysg i blant a phobol ifanc.

“Maen nhw ar un llaw’n dweud bod Gemau Cymru’n ymwneud ag ymarfer corff ond, o achos eu bod nhw’n cael pres gan McDonald’s a Coca-Cola, mae’n iawn i fwyta MacDonald’s ac yfed coke,” meddai wrth gylchgrawn Golwg.

Ond dyw’r Urdd ei hun ddim yn derbyn y feirniadaeth. Mae’r cylchgrawn yn dyfynnu Prif Weithredwr y Mudiad, Efa Gruffydd Jones, sy’n dweud bod y Gemau Olympaidd hefyd yn cael nawdd gan McDonald’s.

“Maen nhw’n mynd i roi arian i ddatblygu gweithgaredd sydd yn ymwneud â ffitrwydd ac iechyd a datblygiad pobol ifanc,” meddai.

Y stori a barn elusen iechyd yn rhifyn yr wythnos o Golwg