Slogan ymgyrch UCAC
Fydd undeb athrwon UCAC ddim yn mynd ar streic ar yr un diwrnod ag undebau eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Ond mae’r arweinwyr yn dal i aros am ganlyniad pleidlais yr aelodau ynglŷn â gweithredu diwydiannol.
Er nad oedd yn fodlon proffwydo beth fyddai hwnnw, roedd un o’r uchel swyddogion yn dweud bod athrawon yn teimlo’n gryf tros newidiadau yn eu trefniadau pensiwn.
Mae undebau athrawon yr NUT a’r ATL wedi dweud y byddan nhw’n cynnal streic undydd ddiwedd y mis gan ddweud bod y Llywodraeth eisiau iddyn nhw weithio mwy, talu mwy a chael llai.
Ond pe bai aelodau’r undeb o Gymru’n pleidleisio o blaid streicio, mae UCAC yn dweud na fyddai amser i gynnal streic ar 30 Mehefin.
‘Teimladau cryfion’
“Mae yna deimladau cryfion wrth i athrawon, yn enwedig y rhai hynny yn eu 20au a 30au sylweddoli ei fod yn mynd i gael effaith aruthrol arnyn nhw,” meddai Eryl Owain, swyddog maes y Gogledd i UCAC.
Yn ôl yr athrawon, does dim diffyg yn y gronfa bensiwn ar eu cyfer nhw ac felly does dim angen y newid.
Gwadu hynny y mae Llywodraeth Prydain, gan ddweud bod rhaid i bawb yn y sector cyhoeddus dderbyn amodau newydd wrth i’r boblogaeth heneiddio.