Un o'r cydrannau o Aberdar
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n rhoi £4 miliwn i helpu cwmnïau sy’n diodde’ oherwydd effaith y daeargryn a’r tswnami yn Japan.

Fe fyddan nhw’n ailagor y cynllun ProAct, a oedd wedi’i greu i helpu cwmnêau trwy’r dirwasgiad, er mwyn cefnogi busnesau sy’n brin o rannau ac offer oherwydd y trychineb.

Fe fydd yr arian yn caniatáu i gwmnïau anfon gweithwyr ar hyfforddiant yn hytrach na thorri eu horiau – fe fydd ar gael mewn ardaloedd sy’n cael cymorth arbennig yr Undeb Ewropeaidd, yn y Gorllewin a’r Cymoedd.

“R’yn ni’n ymwybodol bod nifer o fusnesau wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau diweddar yn Japan,” meddai’r Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert.

“Drwy’r cymorth hwn, fe fydd cwmnïau’n gallu manteisio ar unrhyw derfniadau gweithio amser byr i ddatblygu sgiliau eu gweithlu.”

Help am yr ail dro

Yn ôl y Llywodraeth, mae rhai cwmnïau a gafodd help gan yr hen ProAct cyn mis Mawrth eleni yn debyg o wneud cais eto – rhai fel cwmni Nissin Showa o Aberdâr sy’n cynhyrchu rhannau ceir i gwmniau Honda a Toyota.

Roedden nhw ymhlith yr ola’ i dderbyn arian hyfforddiant ar gyfer 145 o’u gweithwyr – yn ôl un o reolwyr y cwmni, doedd dim byd y gallen nhw ei wneud i ddatrys y problemau sydd wedi codi yn sgil y daeargryn.