Diweithdra
Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi cwympo o 9,000 yn ystod y chwarter diwetha’ – a 40,000 o gymharu â blwyddyn yn ôl.

Yn ôl y ffigurau diweddara’ gan y Swyddfa Ystadegau, mae nifer y bobol sy’n economaidd segur hefyd wedi gostwng – o 10,000 tros y tri mis rhwng dechrau Chwefror a diwedd Ebrill.

Mae hynny’n golygu bod 19,000 yn rhagor o swyddi wedi eu creu yn ystod yr un cyfnod.

Mae’r ffigurau’n golygu bod 480,000 o bobol sydd mewn oed gwaith yn cael eu hystyried yn ‘economaidd segur’ – mwy na chwarter y gweithlu.