Mae cyfyngiad cyflymder 50 milltir yr awr ar gyfartaledd ar yr M4 ger Casnewydd wedi ei ddisodli heddiw â system cyfyngiad cyflymder cyfnewidiol.
Bydd synwyryddion yn y ffordd yn gallu teimlo pa mor drwm yw’r traffig ac fe fydd y cyfyngiad cyflymder yn newid yn awtomatig.
Bydd arwyddion digidol uwchben y ffordd yn newid er mwyn rhoi gwybod i’r gyrwyr.
Fe fydd modd i’r ceir deithio ar 70mya pan nad yw’r traffig yn rhy drwm.
Mae gyrwyr sy’n defnyddio’r ffordd rhwng cyffyrdd 24 a 28 wedi gorfod cadw at y cyfyngiad ers dros flwyddyn wrth i waith ffordd fynd rhagddo yno.
Saffach
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, y bydd y cyfyngiad cyflymder yn cynyddu ar ôl cwblhau gwahanfur cancrid i’r gorllewin o dwnnel Brynglas.
Ychwanegodd y byddai’r system newydd yn gwneud gyrru yno yn saffach ac yn golygu fod gan yrwyr gwell syniad faint o amser y bydd teithiau yn ei gymryd iddyn nhw.
“Mae pobol sy’n defnyddio y rhan yma o’r draffordd wedi dod i arfer â chamerâu cyflymder cyfartalog wrth i waith ffordd hanfodol gael ei gynnal ar y draffordd,” meddai.
“Mae’r gwaith wedi ei gwblhau ac rydyn ni bellach yn gallu disodli’r camerâu cyflymder cyfartalog â chyfyngiad cyflymder cyfnewidiol.
“Mae’r ffordd yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu Cymru ac mae’n bwysig iawn i’n heconomi ni.
“Fe fydd y system cyfyngiad cyflymder cyfnewidiol yn defnyddio technoleg newydd er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn rhedeg yn llyfn.”
Croesawu
Dywedodd yr AA eu bod nhw’n croesawu’r newid a bod y cyfyngiad cyflymder cyfnewidiol yn ddewis “doeth”.
“Mae’r ffordd rhwng cyffyrdd 24 a 28 yn gallu bod yn heriol ar brydiau oherwydd bod y ffordd yn gul a throellog,” meddai llefarydd.
“Nod y cyfyngiad cyflymder cyfnewidiol yw gallu gwneud y rhannau yma o’r ffordd yn saffach pan mae yna lawer iawn o draffig.
“Ond am 2am yn y bore pan nad oes yna lawer o draffig gall gyrwyr fwynhau teithio ar 70mya yn hytrach na gorfod arafu.”