Mae Arglwydd Ceidwadol wedi galw am rwydwaith dŵr cenedlaethol heddiw gan ddweud fod Cymru yn cael “mwy na’i siâr” ohono.

Daeth sylwadau’r Arglwydd Glenarthur, oedd yn weinidog yn Llywodraeth Margaret Thatcher, yn ystod dadl yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw.

Galwodd am rwydwaith dŵr cenedlaethol yn dilyn y sychdwr mewn rhannau o dde ddwyrain a chanolbarth Lloegr yn sgil y gwanwyn sychaf ers dechrau cofnodion.

“Ydi’r Llywodraeth wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu rhwydwaith dŵr cenedlaethol?” gofynnodd i lefarydd y Llywodraeth, yr Arglwydd Taylor o Holbeach.

“Mae Cymru yn cael mwy na’i siâr o ddŵr ac mae rhannau o ogledd-orllewin yr Alban yn sicr yn cael mwy na’u siâr.

“Mae yna wrth gwrs rwydwaith cenedlaethol ar gyfer nwy ar draws Ewrop gyfan.

“A oes yna unrhyw waith wedi mynd rhagddo er mwyn dod o hyd i ffordd o drosglwyddo dŵr ar draws Ynysoedd Prydain a cheisio bywiogi’r rhannau sydd wedi eu taro gan sychdwr?”

Dywedodd yr Arglwydd Taylor y bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r mater mewn Papur Gwyn ar ddŵr.

“Mae yna lawr iawn o ddŵr eisiau yn cael ei drosglwyddo o fewn Ynysoedd Prydain. Mae dŵr Cymru yn mynd i bobman.”

Cyfeiriodd cyn arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley, at sylwadau Maer Llundain, Boris Johnson, ynglŷn ag “datrys y diffyg dŵr yn Llundain drwy greu rhagor o gronfeydd dŵr yng Nghymru a fydd yn teithio ar hyd camlesi i Lundain”.

“A oes modd i chi sicrhau, o ystyried natur ddadleuol y fath gynnig yng Nghymru, y byddai Llywodraeth San Steffan yn trafod â Llywodraeth Cymru cyn bwrw ymlaen?”

Dywedodd yr Arglwydd Taylor nad oedd wedi gweld sylwadau Boris Johnson.