Sasha Jones - y ferch o Aberteifi
Mae’n rhaid i heddluoedd wneud y gwaith  diflas o gofnodi a llenwi ffurflenni er mwyn achub bywydau merched sydd mewn peryg oherwydd cam-drin domestig.

Dyna un o’r negeseuon o gynhadledd sy’n cael ei chynnal heddiw yng Nghaerdydd i ystyried oblygiadau pedair llofruddiaeth yng Nghymru yn ystod un haf.

Dyma’r gynhadledd gynta’ o’i bath, yn tynnu at ei gilydd gynrychiolwyr o’r pedwar heddlu ac asiantaethau eraill.

O fewn ychydig wythnosau yn 2009, roedd pedair menyw wedi cael eu lladd gan bartneriaid a pherthnasau, er bod yr heddlu’n gwybod amdanyn nhw ymlaen llaw.

Llenwi ffurflenni’n ‘hanfodol’

Fe fydd Comisiynydd Cwynion yr Heddlu yng Nghymru yn dweud wrth y 100 o gynrychiolwyr yn y gynhadledd bod y gwaith diflas o lenwi ffurflenni’n hanfodol.

Heb hynny, meddai, mae peryg bod plismyn gwahanol yn mynd yn ôl i’r un cartrefi dro ar ôl tro a neb yn sylweddoli bod y peryg yn cynyddu.

Fe fydd yn pwysleisio’r angen hefyd am systemau da o ddelio gyda galwadau brys a’u cofnodi.

Fe fydd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Carmel Napier, yn egluro sut y mae arbrawf ganddyn nhw wedi torri 28% ar achosion lle mae trais yn y cartref yn digwydd dro ar ôl tro.

Maen nhw wedi dechrau system o gynadleddau ffôn pob dydd i drafod achosion o gam-drin domestig ac fe fydd y drefn honno’n cael ei lledu tros holl ardal yr heddlu.

Medden nhw

“Mae cam-drin domestig yn parhau’n bwnc anferth i gymdeithas gyfan,” meddai Carmel Napier.”Rhaid i ni barhau i wrthod goddef unrhyw gam-drin.

“Rhaid i ni weithio i gynyddu hyder y rhai sy’n dioddef er mwyn iddyn nhw wybod y byddan nhw’n cael eu credu, eu cefnogi a’u helpu.”

Yn ôl Tom Davies, pe bai 104 o ddynion yn cael eu lladd yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn oherwydd eu bod yn ddynion yn achosi sgandal.

Y cefndir

Fe fydd y gynhadledd yn cael clywed rhes o ystadegau am faint y broblem:

  • Mae dwy fenyw’n cael eu lladd gan bartneriaid neu berthnasau bob dydd yng ngwledydd Prydain.
  • Yn ôl Cymorth i Fenywod, mae 150,000 o bobol a phlant yn cael eu heffeithio trwy’r amser gan gam-drin domestig.
  • Cam-drin sy’n cyfri am 14% o’r holl droseddau treisiol yng ngwledydd Prydain.
  • Mae 75% o’r plant sydd ar restrau ‘mewn peryg’ yn dod o gartrefi lle mae cam-drin.
  • Mae 50% o ferched gydag anableddau wedi cael eu cam-drin ryw dro yn ystod eu hoes.
  • Mae dynion hefyd weithiau’n cael eu cam-drin, a phobol o grwpiau arbennig.

Yr achosion

  • Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Bobbie Stokoe, 23 oed, wedi ei lapio mewn carped yn Nhrefeithin, Pont-y-pŵl. Roedd wedi ei lladd gan ei chariad er bod yr heddlu wedi’u rhybuddio o’r blaen.
  • Roedd tad Sasha Jones, 17 oed o Aberteifi, wedi ei thrywanu a gyrru ei chorff o amgylch rhannau o orllewin Cymru. Fe ddywedodd ei mam ei bod wedi galw’r heddlu fwy na 100 o weithiau i ddweud bod ei merch yn cael ei cham-drin.
  • Fe gafodd yr heddlu eu condemnio am fethu ag amddiffyn Karen McGraw, 50 oed o Gei Conna – fe gafodd hi ei lladd gan gyn-bartner.
  • · Cyn gariad oedd wedi llofruddio Joanne Michael o Laneirwg, Caerdydd, hefyd. Fe gafodd aelod o staff sifil yr heddlu ei diswyddo am fethu â delio’n briodol gyda galwad frys.