Efallai fod gan bobol sy’n cadw gwenyn  allwedd i drin heintiadau difrifol, yn eu gerddi.

Mae Prifysgol Caerdydd a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn apelio am help i lunio proffil DNA mêl Cymru.

Y gobaith yw defnyddio’r wybodaeth er mwyn adnabod planhigion a allai ymladd bacteria sy’n gallu gwrthsefyll triniaeth wrth-fiotig, fel yr ‘arch-fyg’ MRSA.

Gallai’r prosiect mêl hwn hefyd gynorthwyo i goncro’r clefydau sydd ar hyn o bryd yn ymosod ar wenyn yng gnweldydd Prydain.

Mae mêl wedi ei ddefnyddio ers cryn amser wrth drin clwyfau oherwydd fod ganddo rinweddau gwrthfacterol.

Mae gwahanol fathau o fêl yn ymladd yn erbyn gwahaniol fathau o ficrobau, ac mae hyn yn dibynnu llawer ar y cemegau o’r planhigion y mae’r gwenyn wedi ymweld â hwy, meddai’r ymchwilwyr.

Heintiadau

Bellach, mae’r Ysgol Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd ar y cyd â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn gofyn i wneuthurwyr mêl ledled y wlad, i anfon samplau, yn ogystal â rhestr o’r planhigion sydd ger eu cychod gwenyn.

Bydd prawf sgrînio sydd wedi ei ddatblygu yng Nghaerdydd yn profi am weithgarwch yn erbyn dau o’r heintiadau mwyaf  cyffredin mewn ysbytai, sef MRSA a Clostridium difficile.

Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n adnabod y planhigion sydd wedi cyfrannu at y mêl mwyaf pwerus, gan ddefnyddio proses broffilio DNA sy’n cael ei datblygu fel rhan o’r Prosiect Cod bar Cymru, sydd wedi rhoi cod bar DNA i holl blanhigion blodeuol Cymru.

Bydd y tîm yna yn cynnal ymchwiliad ar y planhigion  sydd yn y mêl, gan edrych am bosibiliadau i ddatblygu cyffuriau newydd. Mae gan yr Ardd Fotaneg genedlaethol 14 o gychod gwneyn, a gwenynnwr profesiynnol, Lynda Christie, a fydd yn darparu cyngor arbenigol i’r prosiect.

Pla

Mae’r tîm o’r Brifysgol a’r Ardd, sy’n cael ei gefnogi gan y Gymdeithas Ficrobioleg Gymhwysol, hefyd yn chwilio am wahanol fathau o fêl a fydd yn helpu ein gwenyn i wrthsefyll pla.

Yn benodol, byddant yn profi am y gwiddonyn Varroa, sydd eedi achosi cwymp sydyn  yn niferoedd gwenyn yn y D.U, a’r bacteriwm Paenibacillus larvae, sy’n gyfrifol am American Foulbrood, y mwyaf niweidiol o’r holl glefydau sy’n effeithio ar wenyn.

Dywedodd y gwyddonwyr fod peillio gan wenyn werth oddeutu £100m i Amaeth Prydeinig bob blwyddyn, ac felly mae’n hanfodol atal y cwymp yn niferoedd gwenyn.

Mêl cartref

“Mae llawer o waith datblygu cyffuriau yn golygu llawer o waith sgrînio amrywiaeth eang iawn o gynnyrch planhigion mewn labordai, sy’n waith drud, yn aml heb lwyddiant,” meddai’r Athro Les Baillie o’r Ysgol Fferyllol Gymraeg.

“Rydym yn gobeithio gadael i’r gwneyn i wneud llawer o’r gwaith caled. Gobeithio y gall y cyhoedd ddarparu cymaint o fêl cartref ag sy’n bosib oherwydd gallent roi’r allwedd i ni i drechu’r bacteria yma.”

“Rydym bron â bod wedi cwblhau’r proseict Cod bar Cymru er mwyn rhoi cod bar DNA unigryw  i bob un o’r 1143 o blanhigion blodeuol yn Nghymru, ac rydym yn falch iawn i weld yr adnodd hwn yn cael ei gymhwyso,” meddai Dr Natasha de Vere o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

“Fe allwn ni weld pa fêl sy’n rhoi’r canlyniadau gorau wrth ymladd yn erbyn heintiau sy’n effeithio ar ddynion a gwenyn fel ei gilydd, a defnyddio’r cod bar DNA i adnabod y planhigion oedd yn gwneud y mêl.”