Mae dyn 73 oed wedi ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig fu’n dioddef o glefyd Alzheimer’s.
Arestiwyd y pensiynwr Keith Rumbold ddydd Iau pan ddaeth yr heddlu o hyd i gorff ei wraig Shirley yn eu cartref ym Mhrestatyn. Cyhuddwyd ef o lofruddiaeth brynhawn Sadwrn.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon yfory.
“Roedd Shirley wedi dioddef o glefyd Alzheimer’s ers blynyddoedd ac fe fyddai’r teulu yn gwerthfawrogi cael preifatrwydd ar amser anodd a thrist,” meddai’r teulu.
Deallir fod canlyniad dios-dro yr archwiliad post-mortem yn dangos ei bod hi wedi ei mygu.