Mae trigolion pentref wedi eu siomi gan benderfyniad S4C i beidio â rhoi sylw i gymuned Gymraeg sydd wedi ail-sefydlu yno.

Ddeugain mlynedd yn ôl roedd pentref Derwen-gam yng Ngheredigion yn ganolbwynt i brotest genedlaethol pan osodwyd pob un o’r tai ar werth, gan fygwth cymuned o Gymry Cymraeg oedd yn rhentu’r cartrefi.

Roedd y pentrefwyr ar ddeall fod S4C wedi comisiynu rhaglen hanner awr i ddathlu hanes y pentref a’r protestio, a chyngerdd dros y penwythnos – pan oedd cerddorion ac ymgyrchwyr amlwg yn camu i’r llwyfan er mwyn cofnodi’r hanes.

Ond mae hi bellach yn ymddangos na fydd y rhaglen honno am hanes y pentref yn cael ei chynhyrchu wedi’r cyfan, er bod peth o’r gwaith ffilmio wedi dechrau.

‘Crac iawn’

Un o’r rhai a oedd wedi ei wahodd i gyfrannu i’r rhaglen, ac a fu’n rhan o’r protestio yn ôl yn y 1970au, yw’r Parchedig Cen Llwyd, sy’n dweud fod y penderfyniad wedi ei adael “yn grac iawn”.

“Dim ond ddydd Sadwrn ddes i ddeall eu bod nhw wedi tynnu’r plwg ar y rhaglen,” meddai, ac fe gyfeiriodd at hynny yn ei araith ar hanes ymgyrch Derwen-gam yn ystod y cyngerdd.

“Daeth nifer o bobol ata’ i ddydd Sadwrn i ddweud eu bod nhw’n bwriadu cwyno wrth S4C am y penderfyniad … roedd pobol yn grac iawn pan glywon nhw.”

Yn ôl un o drefnwyr y cyngerdd a ddenodd gynulleidfa o 800 o bobol, Carys Morgan, mae’r pentrefwyr eu hunain yn anhapus â’r penderfyniad.

“R’yn ni fel pentrefwyr yn siomedig nad oes rhaglen ddogfen wedi dod ohoni,” meddai, “roedd y gyngerdd ddydd Sadwrn i fod yn gefndir i’r cyfan.”

Ar Wedi 7

Er hynny, mae rhaglen Wedi 7 wedi penderfynu y bydd peth o’u harlwy heno yn mynd i ddarlledu rhai o uchafbwyntiau’r cyngerdd ddydd Sadwrn.

Pan gysylltodd Golwg 360 ag S4C y prynhawn yma, dywedodd y sianel eu bod nhw’n awr yn “trafod os oes modd darlledu rhaglen i gynnwys gweddill yr eitemau a recordiwyd yn yr ardal”.

‘Balchder cymuned’

Cynhaliwyd y cyngerdd ar gae sydd wedi dod yn ganolbwynt i lawer o ddigwyddiadau’r gymuned yn y blynyddoedd diweddar – pentref sydd heb neuadd, nag ysgol, na hyd yn oed swyddfa bost.

“Mae yna falchder yn y pentref ein bod ni’n gallu cynnal digwyddiad fel hyn,” meddai Carys Morgan, a hynny wedi i’r brotest gan bobol o bob cwr o Gymru yn y 70au, ar y cyd â Chymdeithas yr Iaith, dderbyn ergyd drom pan fethwyd â sicrhau cefnogaeth y cyngor i brynu’r tai a’u hail-osod ar gyfer pobol leol.

“Ond mae’r frwydr honno wedi ei hennill erbyn hyn,” ychwanegodd Carys Morgan sydd, fel nifer o Gymry eraill, wedi ymsefydlu yn y pentref gyda’i theulu.

“Roedd hyn yn gyfle i ddathlu, a diolch i’r bobol hynny wnaeth frwydro yn ôl yn y 1970au.”

‘Symbol pwysig i Gymru’

Un o’r rhai a fu’n protestio yn ôl yn y 1970au, ac a ddaeth yn un o drigolion y pentref wedi iddo lwyddo i brynu un o’r tai adeg arwerthiant 1973, yw’r cerddor Cleif Harpwood o’r band Edward H sydd â chân am yr helynt.

“Mae Derwen-gam yn symbol pwysig iawn ac yn rhywbeth dyle pawb gymryd sylw ohono fe,” meddai. “Ma’ Derwen-gam yn dangos i gymunedau sydd wedi gweld mewnlifiad mawr fod ’na ffordd ymlaen.”

Yn ôl y cerddor, a gafodd y “profiad gwefreiddiol” o ddychwelydyno i berfformio ddydd Sadwrn, mae stori Derwen-gam yn un o bwysigrwydd cenedlaethol: “mae’n stori sy’n gweithio ar sawl lefel”.

“Dyma gymuned sydd wedi gwneud ymdrech, ac wedi gweld llwyddiant a ffyniant, lle mae pobol ddi-Gymraeg y pentref wedi cael eu hintegreiddio’n rhan o’r gymuned. Mae’r arwahanrwydd wedi diflannu.”

Ond yn ôl Cleif Harpwood, mae’r frwydr yn parhau.

“Erbyn hyn, r’yn ni’n brwydro yn erbyn ambell i sefydliad o fewn Cymru,” meddai. “Dyw’r frwydr ddim ar ben.”

Fe fydd blas ar ddathliad Derwen-gam yn cael ei ddarlledu ar raglen Wedi 7 heno, am 7pm.