Alan Llwyd
Mae’r bardd a’r awdur Alan Llwyd wedi rhoi gwybod na fydd yn parhau yn ei swydd yn olygydd Barddas, wedi 35 mlynedd wrth y llyw.
Mae wedi bod yn olygydd ar y cylchgrawn ers iddo sefydlu’r cylchgrawn cwarterol yn 1976.
Roedd y Prifardd wedi bod i ffwrdd am 10 wythnos ar gyfnod sabothol yn ddiweddar, ac roedd disgwyl iddo ddychwelyd i’r gwaith heddiw.
Ond yr wythnos diwethaf fe gysylltodd Alan Llwyd ag aelodau Pwyllgor Barddas i ddweud nad oedd yn bwriadu dychwelyd i’w waith wedi’r cwbwl.
Yn ôl un o aelodau’r Pwyllgor, Elwyn Edwards, mae wedi penderfynnu ymddiswyddo “er mwyn gwario mwy o amser ar ei ysgrifennu ei hun.”
Dywedodd Elwyn Edwards na fyddai’n dweud dweud dim rhagor nes bod y Pwyllgor yn cyfarfod i drafod y camau nesaf yn Aberystwyth ar 9 Gorffennaf.
Ond dywedodd na fyddai’r trafodaethau hynny yn effeithio dim ar benderfyniad Alan Llwyd i ymddiswyddo o’i rôl yn olygydd ar y cylchgrawn.
“Dymuniad Alan ei hun oedd mynd,” meddai, “ac mae o wedi mynd felly dyna fo.”
Y Prifardd Llion Jones a’r Athro Peredur Lynch sydd wedi bod yn golygu Barddas yn ei absenoldeb.
Y Glec
Yn y cyfamser mae Meirion McIntyre Huws a Twm Morys wedi cyhoeddi lansiad cylchgrawn barddonol newydd sbon y maen nhw’n bwriadu ei ariannu eu hunain.
Bydd lansiad swyddogol rhifyn cyntaf Y Glec yn y Palas Pinc, y Felinheli, ar 5 Gorffennaf.
Bydd y cylchgrawn yn cynnwys “englynion, straeon cerdd dafod, cywyddau, trafod y gynghanedd, gwersi, ystyr geiriau, posau, pigion ymryson, y beiau, adolygiadau, byd y beirdd, a sawl difyrrwch arall”.
Bydd hefyd yn cynnwys colofnau misol gan Eurig Salisbury, Myrddin ap Dafydd, Karen Owen a Hywel Griffiths.