Richard Burton
Mae awdures bywgraffiad Richard Burton ac Elizabeth Taylor wedi dweud y dylai Russell Crowe a Catherine Zeta- Jones actio’r ddau mewn ffilm am eu bywydau.

Mae’r cyfarwyddwr Martin Scorsese mewn trafodaethau â Paramount Pictures sydd wedi prynu’r hawl i greu ffilm o’r llyfr Furious Love.

Dywedodd yr awdures, Nancy Schoenberger, y byddai “carisma” Russell Crowe yn gweddu i ran Richard Burton.

“Ef sydd wedi bod ar frig y rhestr i chwarae Richard Burton erioed. Mae ganddo’r angerdd a’r carisma i chwarae rhan Burton,” meddai.

“Fe fyddai yn llawer anoddach cael rhywun i chwarae rhan Elizabeth Taylor, ond efallai Catherine Zeta-Jones am ei bod hi’n angerddol ond hefyd yn brydferth.”

Ond dywedodd Graham Jenkins, brawd iau Richard Burton, wrth bapur newydd y Western Mail ei fod yn credu y dylai Cymro chwarae rhan ei frawd.

“Michael Sheen ddylai chwarae rhan Richard. Mae yn hogyn o Bort Talbot ac ni fydd ganddo unrhyw drafferth â’r acen,” meddai.

Priododd ac ysgarodd Richard Burton ac Elizabeth Taylor ddwywaith dros gyfnod o 13 mlynedd ar ôl cyfarfod ar set Cleopatra yn 1963.