Mae yfed gormod o ddiodydd llawn siwgr – gan gynnwys sudd ffrwythau – yn pylu’r gallu i flasu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor.
Mae’r ymchwil wedi datgelu bod pob math o ddiodydd sy’n cynnwys siwgr – o ddiodydd meddal, i sudd ffrwythau, i sgwash – yn effeithio ar allu’r yfwr i werthfawrogi blas melys.
Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu fod yr effaith yn waeth ar bobol sydd yn rhy dew.
Yn ôl Dr Hans-Peter Kubis o Wyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff Prifysgol Bangor, mae pobol sydd dros bwysau yn dangos llai o allu i adnabod blasau melys na phobol o bwysau cymedrol, ond yn dangos mwy o duedd isymwybodol i fynd am y blas melysaf.
Mae’r dystiolaeth yn dangos fod yfed diodydd melys yn gallu effeithio ar y synhwyrau mewn dros gyfnod byr iawn o amser.
Er enghraifft, gall yfed dwy ddiod felys y dydd am bythefnos fod yn ddigon i bylu gallu’r tafod i flasu, a lleihau’r mwynhad a geir wrth flasu.
Cylch melys dieflig…
Mae gan yr ymchwil oblygiadau iechyd difrifol, yn ôl Dr Hans-Peter Kubis.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng iechyd ar sawl lefel, wrth i nifer y bobol sydd dros eu pwysau gynyddu, ac wrth i ddiabetes teip dau gynyddu,” meddai.
Wrth i fwyd melys golli ei apêl, mae pobol yn dueddol o chwilio am rywbeth mwy melys o hyd, a’r rheini yn llawn calorïau.
“Mae siwgr yn llawer rhwyddach i gael gafael arno’r dyddiau yma nag yr oedd yn y gorffennol,” meddai Dr Hans-Peter Kubis, sy’n dweud bod angen mynd i’r afael â’r broblem ar lefel cenedlaethol.
Treth ar siwgr
“Fy ymateb i fyddai i ysgogi’r llywodraeth i ystyried rhoi treth ar siwgr sy’n cael ei ychwanegu at gost bwydydd – a buddsoddi’r arian yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd,” meddai.
“Byddwn i hefyd yn cwestiynu doethineb cynnwys sudd ffrwythau yn rhan o’r ymgyrch ‘5-y-dydd’. Mae rhagor o siwgr mewn sudd ffrwythau nag y mae pobol yn ei sylweddoli. Er enghraifft, pe byddech yn tynnu’r blas sitrws siarp o’r sudd oren, byddai’r ddiod yn llawer rhy felys i’w yfed,” meddai.