Pyramid Djoser
Mae cwmni o Gymru wedi cael y gwaith o achub un o ryfeddodau’r Aifft, deunaw mlynedd wedi i ddaeargryn siglo seiliau’r pyramid hanesyddol sydd mewn perygl o ddymchwel.
Bydd y cwmni o Gasnewydd, Cintec, yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i adfer yr adeilad, sy’n dyddio yn ôl i 2,700 cyn Crist.
Pyramid Djoser yn yr Aifft yw’r pyramid hynaf yn y byd sydd wedi ei adeiladu fesul gris. Ond ers y ddaeargryn ym 1992, mae’r adeilad wedi bod mewn perygl o syrthio.
Amcan y cwmni o Gasnewydd, sydd eisoes wedi trwsio problemau strwythurol yng Nghastell Windsor a’r Tŷ Gwyn, yw adfer y pyramid yn y gobaith y bydd yn sefyll am 2,700 o flynyddoedd eto.
Mae’r tîm wedi cwbwlhau rhan cyntaf eu gwaith ar leoliad yn Saqqara, i’r de-orllewin o Cairo. Bu’n rhaid defnyddio bagiau llawn aer er mwyn cynnal to y pyramid, sy’n 60 metr o daldra, tra eu bod nhw yn cwbwlhau gwaith ar rannau eraill o’r adeilad.
Gwrthdystio
Ond dydi’r gwaith ddim wedi bod yn rhwydd i’r cwmni o dde Cymru.
Tra bod rhan cyntaf y gwaith ymarferol o adfer y pyramid wedi bod yn llwyddiannus, mae’r chwyldro gwleidyddol yn yr Aifft wedi effeithio ar ddatblygiad y gwaith yno.
Roedd y cwmni yn barod, ac ar fin dechrau ar y gwaith yn ôl ym mis Ionawr, ond yna fe ddaeth cwymp y llywodraeth, ac am bedwar mis bu’n rhaid i’r gweithwyr eistedd ar eu dwylo.
Yn ystod y cyfnod hwn roedd llawer o anrhefn a lladrata yn yr ardal, ac fe ddygwyd rhai o gyfrifiaduron y cwmni. Ond y prif ofid oedd y byddai pobol yn amharu ar y pyramid, a hwnnw eisoes ar fin disgyn.
Adeiladwyd y pyramid dros fedd y ffaro Djoser – ymladdwr a fu’n rheoli’r deyrnas am 19 mlynedd. Cafodd olion y ffaro eu codi o’r llawr yn y 1930au.