Ysbyty Athrofaol Cymru
Mae’r llefarydd iechyd yr wrthblaid, Darren Millar, wedi dweud fod ffigyrau newydd sy’n awgrymu fod ysbytai Cymru yn orlawn yn profi fod y gwasanaeth iechyd “ar fin torri i lawr”.

Mae’r ffigyrau yn awgrymu fod 92-94% o welyau Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, wedi bod yn llawn drwy gydol 2010.

Yn Ysbyty Brenhinol Gwent roedd dros 90% o’r gwelyau yn llawn am 10 o’r 12 mis yn 2010.

Roedd 97% o ysbytai Ysbyty’r Trallwng yn llawn ar gyfartaledd yn 2010, a 95% o welyau Ysbytai Bronllys ac Aberhonddu.

Yn ôl y ffigyrau gan y BBC, roedd 81-83% o welyau Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd yn llawn ar gyfartaledd yn 2010.

Does yna ddim targedau ar hyn o bryd ond mae disgwyl i ysbytai sicrhau nad oes yna brinder llefydd gwag fel bod yr ysbytai yn “saff ac yn effeithlon”.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru osod targedau clir er mwyn mynd i’r afael gyda’r broblem,” meddai Darren Millar.

“Rhaid iddyn nhw hefyd weithredu yn syth er mwyn gwrthdroi’r toriadau o £1 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

“Rhaid targedu gwariant ar y gwasanaeth iechyd er mwyn datrys y broblem o orlenwi gwelyau mor fuan a bo modd.

“Mae’r rhestrau aros ar i fyny, llawdriniaethau wedi eu canslo a dyw amseroedd ymateb yr ambiwlansiau ddim yn ddigon da.

“Mae iechyd y genedl yn fater rhy bwysig i gyfaddawdu arno – mae’n fater o fyw neu farw, yn llythrennol.

“Mae’r ystadegau yn brawf pellach fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ar fin torri i lawr,” meddai wedyn.